Dyma grant penodol am waith i ddarparu cyfleusterau ar gyfer addasiadau er budd pobl anabl yn eu prif gartref. Mae enghreifftiau o’r math o waith y gellir ei gyflawni yn cynnwys:

  • gosod cawodydd mynediad gwastad
  • lifftiau grisiau
  • addasu ystafelloedd
  • estyniadau
  • mynediad i eiddo

Mae'r grant yn dilyn rheidrwydd deddfwriaethol i ddarparu addasiadau i gydymffurfio a nod darpariaeth deddfwriaethol Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adnewyddu 1996, Adrannau 19 – 24 fel a ddiwygiwyd yn Atodlen 3 o’r Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Lloegr a Chymru) 2002.


Faint sydd ar gael?

Mae uchafswm grant o £36,000, ond mewn achosion arbennig gellir caniatáu ychwanegu benthyciad dewisol, drwy gyfrwng Benthyciad Dewisol Cyfleusterau i’r Anabl (BDCA). I holi am y pres sydd ar gael, cysylltwch â ni.


Pwy sydd yn cael gwneud cais?

Yr unig ffordd y mae derbyn y grant hwn yw drwy gael eich cyfeirio’n ffurfiol gan Therapydd Galwedigaethol yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. Gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt isod:

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni:

  • Ffôn: 01341 424351
  • Ebost neu ymholiad ar lein: Cysylltu â Gwasanaeth Oedolion Gwynedd
  • Cyfeiriad post: Uned Grantiau a Phrosiectau, Adran Tai ac Eiddo, Cyngor Gwynedd, Cae Penarlag, Dolgellau, LL40 2YB

Mwy o wybodaeth