Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr Gwynedd

Cyfnod yr ymgynghoriad: 20 Mai - 26 Gorffennaf 2026

Pwrpas yr ymgynghoriad

Yn dilyn penderfyniad mewn cyfarfod o Gyngor Llawn Cyngor Gwynedd ar 14 Mai 2026 (yn agor mewn tab newydd), mae Cyngor Gwynedd yn mynd ymlaen i ymgynghori ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn y sir.

Rydym eisiau eich barn fel trigolion, busnesau, ymwelwyr neu randdeiliaid er mwyn eu hystyried yn ein trafodaethau.

Nid yw Cyngor Gwynedd wedi gwneud penderfyniad eto ynghylch cyflwyno ardoll yn lleol, ond mae'r dogfennau perthnasol ar y dudalen hon yn egluro sut gallai Ardoll gael ei weithredu yn lleol.

Beth yw'r Ardoll Ymwelwyr?

Bydd yr ardoll yn dâl dyddiol a delir gan bobl sy'n aros dros nos mewn llety i ymwelwyr, megis gwestai, bythynnod gwyliau, llety gwely a brecwast, a meysydd gwersylla. Ei nod yw cefnogi cymunedau, diwylliant a’r iaith Gymraeg, busnesau, cyfleusterau a’r amgylchedd leol trwy ail fuddsoddi’r incwm yn ôl yn yr ardal.
Gweld mwy o wybodaeth gefndirol am yr ardoll ymwelwyr

Cyfraddau'r ardoll

  • Maes gwersylla pebyll a llofftydd a rennir (hosteli a dorm): £0.75 y person y nos (£0.90 yn cynnwys TAW)
  • Pob math arall o lety gwyliau (carafán, cartref modur hunan-ddarpar, gwely a brecwast, gwesty, ayyb.): £1.30 y person y nos (£1.56 yn cynnwys TAW)

Eithriadau i'r ardoll

Ni fyddwch yn talu'r ardoll ymwelwyr os ydych chi:

  • o dan 18 oed ac yn gwersylla mewn pabell neu'n aros mewn ystafell a rennir gydag eraill (fel llety math hostel neu ystafelloedd aml-wely)
  • yn aros mwy na 31 noson ar un archeb
  • yn aros mewn llety brys neu dros dro a drefnwyd gan y cyngor lleol

Dogfennau perthnasol

Dweud eich dweud

Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr holl ddogfennau perthnasol uchod cyn i chi roi eich barn drwy gwblhau'r holiadur.

Holiadur ar-lein: Rhoi eich barn (yn agor mewn tab newydd)

Bydd copïau papur ar gael yn llyfrgelloedd a Siopau Gwynedd y sir.

I dderbyn copi papur drwy'r post, cysylltwch â ni:

Dyddiad cau: 26 Gorffennaf, 2026

Sesiynau rhannu gwybodaeth

Bydd sesiynau rhanddeiliaid yn cael eu cynnal yn ystod yr ymgynghoriad

Digwyddiadau rhannu gwybodaeth
Dyddiad ac amserLleoliadArchebu lle & mwy o wybodaeth
Dydd Mercher 24 Mehefin, 17:00 -19:00Ar-leinDigwyddiad wedi dod i ben
*Roedd cynrychiolwyr Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn bresennol yn y sesiwn hon.
Dydd Llun, 15 Mehefin
15:00
Galeri CaernarfonDigwyddiad wedi dod i ben
Dydd Iau, 18 Mehefin
17:00
Neuadd Goffa, CriciethDigwyddiad wedi dod i ben
Dydd Gwener, 3 Gorffennaf
13:45
Y Llyfrgell Rydd, DolgellauDigwyddiad wedi dod i ben
*Roedd cynrychiolwyr Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn bresennol yn y sesiwn hon.

Sesiynau galw heibio

Dyddiad ac amserLleoliadManylion
Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2026
10:00-12:00
Prince Llywelyn, BeddgelertDigwyddiad wedi dod i ben
Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2026
14:00-16:00
Y Ganolfan, LlanberisDigwyddiad wedi dod i ben
Dydd Mercher, 8 Gorffennaf, 2026
10:00-12:00
Neuadd Dyfi, AberdyfiDigwyddiad Aberdyfi (yn agor mewn tab newydd)
Dydd Mercher, 8 Gorffennaf, 2026
14:00-16:00
Byw’n Iach, BalaDigwyddiad Bala (yn agor mewn tab newydd)
Dydd Gwener, 10 Gorffennaf, 2026
10:00-12:00
Neuadd AbersochDigwyddiad Abersoch (yn agor mewn tab newydd)
Dydd Gwener, 10 Gorffennaf, 2026
14:00-16:00
Neuadd Dwyfor, PwllheliDigwyddiad Pwllheli (yn agor mewn tab newydd)

Nid oes angen i chi archebu lle, dewch draw ar y diwrnod am sgwrs neu gymorth ynghylch yr ymgynghoriad.

Byddwn yn rhannu diweddariadau drwy’r Bwletin Busnes (yn agor mewn tab newydd) ac ar y dudalen we hon.

Gallwch hefyd gofrestru i fod yn rhan o Bartneriaeth Gwynedd ac Eryri, lle bydd diweddariadau am yr ardoll ymwelwyr yn cael eu darparu drwy e-bost ac yn ystod cyfarfodydd y bartneriaeth pan fo’n berthnasol.