Mae Cynllun Strategol Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 wedi’i fabwysiadu gyda’r weledigaeth ganlynol:
Economi Ymwelwyr er budd a llesiant Pobl, Amgylchedd, Iaith a Diwylliant Gwynedd ac Eryri.”
Egwyddorion Economi Ymwelwyr Gwynedd ac Eryri:
- Dathlu, Parchu a Diogelu ein Cymunedau, Hiaith, Diwylliant a Threftadaeth.
- Cynnal a Pharchu ein Hamgylchedd.
- Sicrhau bod y manteision i gymunedau Gwynedd ac Eryri yn gorbwyso unrhyw anfanteision.
Bydd Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd ac Eryri 2035 yn cael ei chyflawni drwy weithredu cydgysylltiedig dan arweiniad Partneriaeth Gwynedd ac Eryri.
Byddwn yn gwneud hyn drwy:
- Gweithio mewn partneriaeth ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a chymunedol.
- Cefnogi busnesau lleol i ddatblygu arferion cynaliadwy.
- Diogelu a gwella amgylchedd naturiol Parc Cenedlaethol Eryri a gweddill ardal Gwynedd.
- Rheoli nifer ac ymddygiad ymwelwyr er mwyn lleihau effeithiau negyddol.
- Buddsoddi mewn seilwaith a gwasanaethau sy’n cefnogi trigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
- Hyrwyddo twristiaeth gyfrifol ac annog ymweliadau drwy gydol y flwyddyn.
- Defnyddio tystiolaeth a gwybodaeth leol i lywio’r broses o wneud penderfyniadau.
- Monitro cynnydd ac addasu camau gweithredu dros amser.
Mae’r dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod y gwaith cyflawni yn parhau’n hyblyg, wedi’i seilio ar wybodaeth leol ac yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd hirdymor
Cipolwg:
- Gweledigaeth hirdymor hyd at 2035.
- Ffocws ar dwristiaeth gynaliadwy.
- Cyflawni drwy bartneriaeth.
- Cydbwyso’r economi, yr amgylchedd a chymunedau.
Mae cyfle i gymryd rhan yng nghyfarfodydd y Bartneriaeth sy’n cyfrannu at lunio a chyflawni’r gwaith. Mae ddyddiad y cyfarfod nesaf ar gyfer y sector cyhoeddus i’w gadarnhau.
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni am ragor o fanylion: twristiaeth@gwynedd.llyw.cymu
Ers mabwysiadu’r Cynllun Strategol gan Gyngor Gwynedd ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ym mis Chwefror 2023, mae’r canlynol wedi digwydd:
- Lansiwyd Cynllun Strategol Gwynedd ac Eryri 2035 ym Mhlas Tan y Bwlch, Maentwrog, ar 25 Medi 2023.
- Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bellach wedi ymuno’n ffurfiol â’r Bartneriaeth, gan gryfhau’r cydweithio ar draws ardal Parc Cenedlaethol Eryri.
- Cytunwyd ar femorandwm cyd-ddealltwriaeth a’i lofnodi rhwng y tri phartner yn y sector cyhoeddus, gan gadarnhau eu hymrwymiad i’r Bartneriaeth.
- Mae strwythur partneriaeth newydd wedi’i sefydlu i gefnogi cyflwyno Cynlluniau Gweithredu blynyddol, ac mae rhaglen 2024–25 wedi’i chwblhau’n llwyddiannus (gweler yr infograffeg isod o dan ‘Cynllun Gweithredu’).
- Cynhaliwyd Cynhadledd Gwynedd ac Eryri 2035 ym mis Chwefror 2025, gan ddod â phartneriaid a rhanddeiliaid ynghyd i adolygu cynnydd a llywio blaenoriaethau’r dyfodol.
Rhagor o Wybodaeth, Ymchwil a Dogfennau
Isod, fe welwch ddogfennau allweddol a mewnwelediadau sydd wedi llywio'r cynllun strategol hwn.
- Bwletin Economi Ymweld Gwynedd ac Eryri 2035: 5 (Hydref 2025) (yn agor mewn tab newydd)
- Bwletin Economi Ymweld Gwynedd ac Eryri 2035: 4 (Medi 2024) (yn agor mewn tab newydd)
- Bwletin Economi Ymweld Gwynedd ac Eryri 2035: 3 (Haf 2023) (yn agor mewn tab newydd)
- Bwletin Economi Ymweld Gwynedd ac Eryri 2035: 2 (Mawrth 2022) (yn agor mewn tab newydd)
- Bwletin Economi Ymweld Gwynedd ac Eryri 2035: 1 (2022)
Mae’r cynllun gweithredu ar gyfer 2024–25 wedi dangos cynnydd cadarnhaol tuag at nodau hirdymor partneriaeth Gwynedd ac Eryri 2035. Gyda rhwydweithiau newydd o fusnesau di-blastig, gwelliannau i isadeiledd twristiaeth, digwyddiadau amrywiol a mwy o lysgenhadon i'r ardal nag erioed, mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gosod sylfaen gadarn ar gyfer y dyfodol.
Digwyddiadau a chynadleddau
Deunyddiau o ddigwyddiadau a chynadleddau blaenorol.
Croeso a Chyflwyniad (PDF)
Gweithio mewn Partneriaeth/Cynlluniau Strategol ac arolygon trigolion a busnes
Croeso Diwylliannol a Chymreig (PDF)
Ecoamgueddfa Llŷn
Croeso Cyfryngau Cymdeithasol 1 (PDF)
Catrin Elis - Croeso Cymru
Croeso Cyfryngau Cymdeithasol 2 (PDF)
Dr. Emma Edwards Jones, Eryri Bywiol / AdventureSmart
Croeso i Gwynedd ac Eryri (PDF)
Angela Jones, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri
Croeso i Gwynedd ac Eryri (PDF)
Alaw – Ymgyrch Marchnata Digidol ‘Lleol i ni’
Arfer Da Rhyngwladol - Yr Athro Terry Stevens (PDF)
Gweithredu Twristiaeth Gynaliadwy a Chyllido
Trafodaeth Panel a Chwestiynau (PDF)
Camau at y Dyfodol gyda Gwenllian Roberts, Dr. Cynog Prys, Haydn Jones, Glenn Evans, Dr. Einir Young, Michael Bewick