Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau deddfwriaeth newydd ar gyfer ardoll ymwelwyr, a gafodd Gydsyniad Brenhinol ym mis Medi 2025.
Mae’r gyfraith newydd hon yn rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol yng Nghymru gyflwyno tâl bach ar arosiadau dros nos gan ymwelwyr, gyda’r nod o gefnogi twristiaeth gynaliadwy.
Mae Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd yn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno ardoll yn lleol, ond nid oes penderfyniad wedi’i wneud hyd yma.
Nid oes angen i chi archebu lle, dewch draw ar y diwrnod am sgwrs neu gymorth ynghylch yr ymgynghoriad.
Sesiwn ar-lein
Cynhaliwyd sesiwn darparu gwybodaeth ar-lein ar:
Dydd Mercher, 24 Mehefin 2026. 5pm - 7pm
Roedd cynrychiolwyr Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn bresennol yn y sesiwn hon.
Gwybodaeth gefndirol
Mae’r dudalen hon yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y gallai’r ardoll ei olygu i fusnesau a chymunedau yng Ngwynedd, ynghyd â dolenni at adnoddau pellach a chwestiynau cyffredin.
Noder: Ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Gwynedd wedi gwneud penderfyniad ynghylch cyflwyno’r ardoll.
Mae angen cyfnod ymgynghori (ynghylch cyflwyno’r ardoll) a 12 mis o rybudd cyn y daw’r ardoll i rym yn lleol.
26 Gorffennaf 2026 – Daw’r cyfnod ymgynghori i ben a chaiff adroddiadau eu paratoi ar gyfer cyfarfod y Cyngor Llawn
24 Medi 2026 – Cyflwynir yr adroddiad i’r Cyngor Llawn
Hydref 2026 – Dechrau cofrestru llety ymwelwyr ledled Cymru
Gwanwyn 2027 – Cau’r gofrestr llety ymwelwyr
Ebrill 2027 – Y dyddiad cynharaf y gellid cyflwyno ardoll mewn unrhyw ardal yng Nghymru.
Byddai’r ardoll yn dâl dyddiol a delir gan bobl sy’n aros dros nos mewn llety ymwelwyr, megis gwestai, bythynnod gwyliau, llety gwely a brecwast, a meysydd gwersylla.
Mae wedi’i chynllunio i greu etifeddiaeth barhaol i gymunedau, diwylliant, yr iaith Gymraeg a’r amgylchedd drwy ailfuddsoddi’r arian yn economi ymwelwyr lleol.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer llety ymwelwyr yn y sector hunanarlwyo
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig dwy gyfradd ardoll genedlaethol:
£1.30 + TAW y person, y noson ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o lety (e.e. gwestai, llety gwely a brecwast, hunanarlwyo a charafannau)
75c + TAW y person, y noson ar gyfer llety cost is megis hosteli a lleiniau pabell
Mae’r cyfraddau hyn wedi’u gosod yn genedlaethol a byddent yn berthnasol pe bai Gwynedd yn dewis cyflwyno’r ardoll
Bydd cofrestru llety ymwelwyr yn agor yn hydref 2026. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi gofrestru gydag Awdurdod Cyllid Cymru (yn agor mewn tab newydd) (ACC) os ydych yn codi tâl ar ymwelwyr am arosiadau dros nos yng Nghymru.
Bydd cofrestru yn:
helpu ymwelwyr i ddod o hyd i lety cofrestredig
darparu data i gefnogi twristiaeth yng Nghymru
helpu chi i gasglu a thalu’r ardoll ymwelwyr (os yw eich cyngor lleol yn rhan o’r cynllun)
Bydd angen i fusnesau ddarparu eu manylion cyswllt a gwybodaeth am y llety (cyfeiriad, nifer y lleoedd gwely ac ati).
Gallwch gael diweddariadau am gofrestru a’r ardoll ymwelwyr drwy ymuno ag Awdurdod Cyllid Cymru:
Mae Bil Datblygu Twristiaeth a Rheoleiddio Llety Ymwelwyr (Cymru) yn darparu’r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer cynllun trwyddedu llety ymwelwyr yng Nghymru.
Mae amcangyfrifon cyfredol Llywodraeth Cymru yn nodi y gallai’r ardoll gynhyrchu tua £6 miliwn y flwyddyn yng Ngwynedd, i’w ailfuddsoddi mewn:
Traethau, parciau a chanol trefi sydd wedi’u cynnal yn well
Atyniadau diwylliannol gwell
Twristiaeth gynaliadwy sy’n fuddiol i ymwelwyr a chymunedau lleol
Cefnogi’r Gymraeg yn ein cymunedau
Ni fyddai’r Cyngor ei hun yn gweinyddu’r ardoll yn uniongyrchol nac yn cyflogi staff ychwanegol i’w chasglu; bydd hyn yn cael ei wneud yn genedlaethol gan Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Rôl Cyngor Gwynedd fyddai rheoli partneriaethau lleol, cyfathrebu, marchnata, a phrosiectau a ariennir gan incwm yr ardoll.
Nac ydy. Nid yw’r Cyngor wedi gwneud penderfyniad eto. Byddai angen cyfnod o ymgynghori a hysbysiad ffurfiol cyn cyflwyno unrhyw ardoll.
Bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn gweinyddu, cefnogi a gorfodi’r ardoll ar lefel genedlaethol.
Na fydd. Mae’r system yn cael ei dylunio i fod mor syml â phosibl i ddarparwyr, gyda chyflwyno adroddiadau’n chwarterol neu’n flynyddol.
Yng Nghymru, y dyddiad cynharaf posibl yw 1 Ebrill 2027, ond dim ond yn dilyn cyfnod o ymgynghori a rhoi blwyddyn o rybudd i Awdurdod Cyllid Cymru gan awdurdod lleol.
Mae amcangyfrifon Llywodraeth Cymru yn awgrymu tua £6 miliwn y flwyddyn, a fyddai’n cael ei fuddsoddi mewn cymunedau lleol, diwylliant a seilwaith twristiaeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau ar y meysydd blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi:
traethau, parciau a chanol trefi sydd wedi’u cynnal yn well
atyniadau diwylliannol gwell
twristiaeth gynaliadwy sy’n fuddiol i ymwelwyr a chymunedau lleol