Canlyniadau Ardal ni 2035: Ardal Porthmadog a Phenrhyndeudraeth

Beddgelert, Bryncir, Cricieth, Dolbenmaen, Porthmadog a Penrhyndeudraeth

Canlyniadau Cam 1 - Holi barn Cynghorwyr, Cynghorau Cymuned/Tref/Dinas, grwpiau a mudiadau

Fel cam cyntaf i’r gwaith, cynhaliwyd sgyrsiau gyda Chynghorwyr, Cynghorau Cymuned a Thref a grwpiau adfywio lleol.

Fe wnaeth 7 o Gynghorau Cymuned/Tref, mudiadau, grwpiau ac Aelodau lleol yn ardal Porthmadog a Penrhyndeudraeth gyflwyno eu syniadau ynglŷn â beth ddylai fod yn flaenoriaethau lleol ar gyfer yr ardal yn y cyfnod hyd at 2035. Defnyddiwyd yr ymatebion yma fel sail ar gyfer yr ail-gam o ymgysylltu ehangach gyda’r cyhoedd.

Cliciwch isod i weld adroddiad o'r adborth.

Canlyniadau Cam 1 - Ardal Porthmadog a Penrhyndeudraeth (Ionawr 2022) (yn agor mewn tab newydd)

Canlyniadau Cam 2 - Holi barn y cyhoedd

Yn dilyn Cam 1, ym mis Chwefror 2022 fe lansiwyd ymarferiad ymgysylltu cyhoeddus ar gyfer pob un o’r 13 ardal/dalgylch, gyda gwahoddiad i bobl leol gyfrannu i’r gwaith o siapio prosiect Ardal Ni 2035 drwy lenwi holiadur syml ar-lein neu ar bapur. Er mwyn annog cymaint o bobl â phosib i gymryd rhan, trefnwyd ymgyrch ymgysylltu cynhwysfawr gan gynnwys cyfres o ymweliadau a chyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Bydd yr ymatebion yn helpu i siapio prosiect Ardal Ni 2035 - sef fframwaith Cyngor Gwynedd i adfywio cymunedau lleol - ac yn bwydo i nifer o brosiectau i wella gwasanaethau lleol yn eich ardal.

Cliciwch isod i weld adroddiad o'r adborth.

Canlyniadau Cam 2 - Ardal Porthmadog a Penrhyndeudraeth (Chwefror - Mehefin 2022) (yn agor mewn tab newydd)


Gweld map o ardal Porthmadog a Penrhyndeudraeth (yn agor mewn tab newydd)