Canlyniadau Ymgynghoriad Ardal Ni 2035
Beth sy'n dda am eich ardal leol? Beth sydd ddim mor dda? Beth sydd angen newid er mwyn gwneud eich ardal yn lle gwych i fyw ynddo erbyn 2035?
Yn ystod haf 2022 fe wnaethom alw ar drigolion y sir - o Ben Llŷn i Benllyn ac o Aberdyfi i Abergwyngregyn – i lenwi holiadur 'Ardal Ni 2035' er mwyn canfod atebion i’r cwestiynau allweddol yma.
Bwriad prosiect Ardal Ni 2035 oedd cynnal sgwrs a thrafod gyda chymunedau lleol er mwyn adnabod beth sy’n bwysig i drigolion a sut yr hoffent weld eu hardal yn datblygu dros y 10 -15 mlynedd nesaf.
Ar ddiwedd y gwaith ymgysylltu bydd 13 cynllun adfywio unigryw yn cael eu datblygu a fydd yn adlewyrchu dyheadau cymunedau lleol Gwynedd.
Bro Ardudwy
Abermaw/ Y Bermo, Dyffryn Ardudwy, Harlech, Llanaber, Llandecwyn.

Dalgylch Dolgellau
Corris, Dinas Mawddwy, Dolgellau, Fairbourne, Ganllwyd, Rhydymain.

Dalgylch Bangor
Bangor, Glasinfryn, Pentir, Y Felinheli.

Dalgylch Caernarfon
Bontnewydd, Caernarfon, Llanfaglan.

Ardal Pen Llŷn
Aberdaron, Abersoch, Botwnnog, Llanbedrog, Nefyn, Tudweiliog.

Dalgylch Pwllheli
Boduan, Chwilog, Llanaelhaearn, Llannor, Llanystumdwy, Llithfaen, Pencaenewydd, Pistyll, Pwllheli.

Bro Ogwen
Abergwyngregyn, Bethesda, Llandygai, Tregarth.

Bro Peris
Bethel, Deiniolen, Llanberis, Llanrug, Rhiwlas, Rhyd-Ddu, Waunfawr, Caeathro.

Bro Ffestiniog
Blaenau Ffestiniog, Llan Ffestiniog, Maentwrog, Trawsfynydd.

Bro Lleu a Nantlle
Carmel, Clynnog Fawr, Llanllyfni, Llanwnda, Nantlle, Penygroes, Rhosgadfan.

Bro Dysynni
Aberdyfi, Abergynolwyn, Llwyngwril, Tywyn.

Bala a Phenllyn
Bala, Frongoch, Llandderfel, Llanuwchllyn.

Ardal Porthmadog a Phenrhyndeudraeth
Beddgelert, Bryncir, Cricieth, Dolbenmaen, Porthmadog a Penrhyndeudraeth


