Hysbysiad o benderfyniad – Ysgol Y Garreg

Yn ei gyfarfod ar 9 Mehefin 2026, mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi penderfynu cymeradwyo yn derfynol y cynnig i “gau Ysgol Y Garreg 31 Awst 2026 a dynodi Ysgol Cefn Coch fel yr ysgol amgen o 1 Medi 2026.”

Datblygwyd y cynnig o ganlyniad i’r prif heriau oedd yn wynebu’r ysgol, sef:

  • Niferoedd isel iawn o ddysgwyr yn mynychu’r ysgol – roedd dau ddysgwr ar y gofrestr yng nghyfrifiad CYBLD Ionawr 2026;
  • Canran uchel o lefydd gweigion gyda 95% o lefydd gweigion yn yr ysgol (dosbarth Derbyn i Blwyddyn 6);
  • Rhagamcanion yn seiliedig ar niferoedd CYBLD Ionawr 2026 yn awgrymu na fydd dysgwyr o oedran statudol yn yr ysgol ym mis Medi 2026 gan nad oes dysgwyr yn y dosbarthiadau Derbyn i blwyddyn 5 nac ychwaith yn y dosbarth Meithrin.

Y mae’r Awdurdod o’r farn yn dilyn cynnal y cyfnod gwrthwynebu, na fyddai'r un o’r opsiynau eraill, gan gynnwys ffederaleiddio, yn mynd i’r afael a’r prif heriau sydd yn wynebu’r ysgol ac mai gweithredu’r cynnig yw’r ymateb mwyaf priodol i sefyllfa Ysgol Y Garreg.

Yn unol â chanllawiau’r Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018 mae’n ofynnol i rannu penderfyniad y Cabinet ar ffurf Llythyr Penderfyniad gyda’r rhanddeiliaid a nodir yn y cod.

Llythyr Penderfyniad

 

Mwy...

Cyfarfod Cabinet 9 Mehefin 2026, Adroddiad Gwrthwynebu – Ysgol Y Garreg

Yn sgil y penderfyniad a wnaed gan y Cabinet yn ei gyfarfod 10 Chwefror 2026, cyhoeddwyd Hysbysiad Statudol ar y cynnig arfaethedig ar 25 Chwefror 2026, gan gychwyn cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod. Daeth y cyfnod gwrthwynebu i ben 24 Mawrth 2026 ac ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiad.

Aethpwyd ger bron y Cabinet 9 Mehefin 2026 gyda'r adroddiad gwrthwynebu er mwyn gofyn i’r Cabinet gadarnhau yn derfynol y cynnig a roddwyd drwy hysbysiad statudol, sef -  “cau Ysgol Y Garreg 31 Awst a dynodi Ysgol Cefn Coch fel yr ysgol amgen o 1 Medi 2026.”

Lluniwyd y cynnig o ganlyniad i’r angen i gyfarch y niferoedd isel iawn o ddysgwyr sy’n mynychu Ysgol Y Garreg ac o ganlyniad, maint bychain y dosbarthiadau, yn ogystal â rhagamcanion isel o niferoedd i’r dyfodol. Nid oedd yr un o’r opsiynau eraill a adnabuwyd ar gyfer yr ysgol, gan gynnwys ffederaleiddio, yn mynd i’r afael a’r heriau yma. Fel canlyniad ystyrir mai cau’r ysgol yw’r opsiwn mwyaf priodol.

Gwybodaeth bellach

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi Hysbysiad Statudol mewn perthynas â’r cynnig i gau Ysgol Y Garreg 31 Awst 2026.

Gweld yr Hysbysiad Statudol

Lluniwyd y cynnig o ganlyniad i’r angen i gyfarch y niferoedd isel iawn o ddisgyblion sy’n mynychu Ysgol Y Garreg ac o ganlyniad, maint bychain y dosbarthiadau, yn ogystal â rhagamcanion isel o niferoedd i’r dyfodol. Nid oedd yr un o’r opsiynau eraill a adnabuwyd ar gyfer yr ysgol, gan gynnwys ffederaleiddio, yn mynd i’r afael a’r heriau yma. Fel canlyniad ystyrir mai cau’r ysgol yw’r opsiwn mwyaf priodol. 

 

Cyfnod Gwrthwynebu

Fel y nodir yn yr Hysbysiad Statudol, gall unrhyw un wrthwynebu'r cynnig cyn pen cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi'r cynnig hwn, hynny yw erbyn 24 Mawrth 2026. 

 

Sut i wrthwynebu’r cynnig?

Dylid anfon gwrthwynebiadau ysgrifenedig at sylw’r Pennaeth Addysg, Cyngor Gwynedd, Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH neu drwy anfon neges e-bost at sylw’r Pennaeth Addysg i moderneiddioaddysg@gwynedd.llyw.cymru 

 

Gwybodaeth bellach

Yn ei gyfarfod ar 10 Chwefror 2026, bu i Gabinet Cyngor Gwynedd benderfynu cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol , yn caniatáu cyfnod gwrthwynebu statudol o 28 diwrnod ar y cynnig i gau Ysgol Y Garreg ar 31 Awst 2026.

Ar ôl i’r cyfnod gwrthwynebu ddod i ben, bydd unrhyw wrthwynebiadau a dderbynnir yn cael eu hystyried cyn gwneud penderfyniad terfynol.