Llywodraethwyr
Os ydych chi’n berson sy’n gallu cydweithio efo bobl eraill, eisiau dysgu rywbeth newydd a chyfrannu at eich cymuned, dylech ystyried dod yn lywodraethwr.
Rôl llywodraethwr
Fel llywodraethwr rydych yn weithiwr gwirfoddol sydd â diddordeb mewn addysgu neu ddysgu, sy’n cynrychioli aelodau yn y gymuned a staff yr ysgol. Rydych yn aelod o dîm sy'n derbyn cyfrifoldeb am bopeth mae ysgol yn ei gyflawni, yn darparu cefnogaeth i'r ysgol, ac yn rhoi eich barn ar safonau a materion rheoli.
Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu, sydd fel arfer yn cynnwys:
- Rhiant-lywodraethwr
- Llywodraethwyr yr Awdurdod Addysg Lleol
- Llywodraethwyr Cymunedol
- Llywodraethwyr Cymunedol ychwanegol
- Llywodraethwyr Sylfaenol
- Athro-lywodraethwr
- Staff-lywodraethwr
Sut i ddod yn lywodraethwr
Cysylltwch â'r Uned Cefnogi Llywodraethwyr:
Ffôn: (01286) 679 303
Cyfeiriad: Uned Gefnogi Llywodraethwyr, Swyddfa Addysg, Cyngor Gwynedd, Stryd y Castell, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1SH
Hyfforddiant
I gofrestru eich hun ar gwrs mae angen cysylltu â ni: