Cartref > Trigolion > Ysgolion a dysgu > Cronfa J E Buckley Jones, Sir Gaernarfon

Cronfa J E Buckley Jones, Sir Gaernarfon

Pwrpas y Gronfa

Sefydlwyd y Gronfa o dan ewyllys y diweddar J E Buckley Jones

Mae ar gael i roi grantiau i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed a anwyd, neu sy’n byw yn ardal yr hen Sir Gaernarfon sydd angen cefnogaeth ariannol (tu hwnt i’r hyn y medr eu rhieni neu ofalwyr ei ddarparu) i barhau â’u addysg er mwyn cymhwyso ar gyfer gyrfa benodol. Ni all y Gronfa gefnogi ceisiadau cyffredinol gan fyfyrwyr, rhaid bod cyswllt clir rhwng y cwrs/hyfforddiant/gradd a wneir a’r yrfa y mae’r unigolyn yn gobeithio cymhwyso ar ei gyfer.

Gan fod incwm y Gronfa yn dod o fuddsoddiadau mae’r arian sydd ar gael yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ac fe fydd maint y grantiau hefyd yn amrywio yn ôl nifer y ceisiadau a dderbynnir.

Bydd modd i fyfyrwyr dderbyn yr ysgoloriaeth yn ystod pob blwyddyn academaidd y byddant yn astudio cyn belled â bônt yn cyflwyno cais yn flynyddol.

Sut i ymgeisio?

Llenwch y ffurflen gais yma: a danfonwch hi at buddugmairhuws@gwynedd.llyw.cymru

I gael gwybodaeth bellach ebostiwch: buddugmairhuws@gwynedd.llyw.cymru

Dyddiad Cau

Dyddiad cau ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/2024 yw’r 20/10/2023