Rhentu doeth

Ydych chi’n cydymffurfio?

Hoffem atgoffa landlordiaid ac asiantau gydag eiddo yng Ngwynedd neu unrhyw ardal arall yng Nghymru, bod pwerau gorfodi Rhentu Doeth Cymru ar waith bellach.  

Yn ôl cynllun Llywodraeth Cymru, sy’n helpu i godi safonau yn y sector rhentu preifat, mae gofyn i bob landlord preifat gofrestru ei hun a'i eiddo. Rhaid i Landlordiaid ac Asiantau sy’n gosod neu reoli eiddo gael trwydded yn ogystal.

Ers 23 Tachwedd 2016 mae’r pwerau gorfodi mewn grym, a gallai landlordiaid ac asiantau nad ydynt yn cydymffurfio wynebu amrywiaeth o sancsiynau gan gynnwys:

  • erlyn
  • hysbysiadau cosb benodedig
  • atal rhent
  • gorchmynion ad-dalu rhent. 

Mae awdurdodau lleol ledled Cymru, gan gynnwys Cyngor Gwynedd, yn gweithio gyda Rhentu Doeth Cymru i amlygu’r rhai sy’n dal i beidio â chydymffurfio â’r gyfraith. Mae Cynghorau bellach yn erlyn y rheiny sydd wedi methu â chydymffurfio.

Os ydych chi’n landlord neu asiant sydd heb gydymffurfio eto, peidiwch ag oedi. Mae'n bwysig eich bod yn cymryd y camau angenrheidiol nawr i gydymffurfio ac osgoi unrhyw weithredu.

Os ydych chi’n denant ac yn dymuno cadarnhau os ydi eich landlord a/neu asiant yn cydymffurfio, gallwch weld cofrestr gyhoeddus Rhentu Doeth Cymru ar-lein: www.rhentudoeth.llyw.cymru

 

Mwy o wybodaeth:

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch amodau eiddo rhent preifat yng Nghyngor Gwynedd, cysylltwch â  tai@gwynedd.llyw.cymru neu ffoniwch 01286 682853.