Amodau tai preifat ar rent

Y landlord sy’n gyfrifol am sicrhau bod eiddo ar rent yn addas i fyw ynddo.

Os ydych yn poeni am yr amodau yn eich llety, dylech gysylltu â’r landlord neu ei asiant yn gyntaf. Os nad yw’r landlord yn trwsio / gwella pethau o fewn amser rhesymol, Cysylltwch â ni:

Byddwn yn ymchwilio i gwynion ynghylch:

  • strwythur yr adeilad
  • bath, sinciau a chyfleusterau ymolchi eraill
  • gosodiadau gwresogi a dŵr poeth
  • gosodiadau trydan a nwy
  • materion iechyd a diogelwch
  • tamprwydd a llwydni
  • gwresogi a chadw gwres aneffeithlon
  • diogelwch tân a ffordd o ddianc.

Gallwn hefyd edrych ar arferion rheoli’r landlord.

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, wedi dod i rym ar 1 Rhagfyr 2022. O dan y Ddeddf hon rhaid ichi gysylltu â’ch landlord yn ysgrifenedig i roi cyfle iddynt ymdrin â’r mater dan sylw. Dilynwch unrhyw alwad ffôn neu adroddiad wyneb yn wyneb â’ch landlord/asiant o ddiffyg atgyweirio gyda llythyr, e-bost neu neges destun.

Bydd angen cynnwys:

  • y dyddiad
  • eich enw a'ch cyfeiriad
  • enw eich landlord neu asiant
  • y problemau gyda'ch cartref, rhowch gymaint o wybodaeth ac y gallech am y broblem a'i leoliad yn yr eiddo.

Cadwch gopi o'r neges, e-bost neu lythyr rydych chi'n ei anfon. Dylech hefyd gadw copïau o unrhyw atebion fel prawf bod eich neges wedi ei dderbyn. Mae angen i chi ofyn i'r landlord neu'r asiant ddod i edrych ar y materion o fewn 14 diwrnod. Efallai y bydd yn rhaid i'r landlord drefnu i rywun ddod yn ôl yn ddiweddarach i wneud y gwaith atgyweirio. Ni allwch ddisgwyl i'r holl faterion gael eu datrys mewn 14 diwrnod.

Os ar ôl i'r 14 diwrnod ddod i ben, ac os ydych landlord heb ymateb. Ar y pwynt hwn dylech gysylltu â ni gan ddarparu copi o'r hysbysiad ac unrhyw ohebiaeth arall yr ydych wedi'i hanfon at eich landlord.

Close

 

Diogelwch nwyddau mewn llety rent

Mae rheolau yn bodoli o ran diogelwch nwyddau mewn tŷ sy'n cael ei rentu fel gweithgaredd busnes. Mae hyn yn berthnasol i dai, fflatiau, fflatiau un ystafell, llety gwyliau, carafanau a chychod.

Mae’r gyfraith yn berthnasol i asiantwyr gosod, arwerthwyr tai a landlordiaid preifat. Mwy o wybodaeth: Llyfryn Diogelwch Nwyddau

Mwy o wybodaeth

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Rhentu Doeth Cymru