Tŷ Gwynedd Llanystumdwy

Fel rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, mae Cyngor Gwynedd yn datblygu 5 cartref fforddiadwy yn Llanystumdwy.

Mae’r prosiect yn cynnwys:

  • 1 x tŷ 2 ystafell wely
  • 4 x tŷ 3 ystafell wely

Derbyniwyd caniatâd cynllunio i adeiladu’r tai ger stad Maes Llwyd yn Llanystumdwy ar 14 Gorffennaf 2025. 

Gweld y cais cynllunio 

Cynllun Tŷ Gwynedd

Mae’r cartrefi newydd yn Llanystumdwy yn rhan o gynllun Tŷ Gwynedd, sef cynllun datblygu tai gan Gyngor Gwynedd sy’n anelu at ddarparu 90 o dai fforddiadwy i bobl leol ar draws y sir. Amcan y cynllun hwn yw cefnogi pobl sy’n ei chael hi’n anodd prynu neu rentu tŷ ar y farchnad agored ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.

Ein gweledigaeth yw datblygu tai fforddiadwy o safon. Byddwn yn cyflawni hyn drwy lynu at yr egwyddorion dylunio canlynol:

  • Fforddiadwy – tai ar gael i'w prynu a'u rhentu am bris fforddiadwy.
  • Addasadwy – dyluniadau hyblyg y gellir eu haddasu i gwrdd ag anghenion sy’n newid dros amser.
  • Cynaliadwy – defnydd o ddeunyddiau ecogyfeillgar a chadwyni cyflenwi lleol.
  • Ynni-effeithiol – rhoi technoleg fodern ar waith i leihau ôl troed carbon a chostau ynni.

Mae’r cynllun hwn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd, sy’n anelu i adeiladu, prynu neu adnewyddu dros 2,000 o gartrefi dros oes y Cynllun.

Mwy o wybodaeth am gynllun Tŷ Gwynedd

 

Sut i ymgeisio? 

Bydd modd cyflwyno cais i Gyngor Gwynedd am dŷ wrth iddo ddod ar gael.

 

Darllenwch y datganiadau i’r wasg ddiweddaraf:

Am y wybodaeth diweddaraf, dilynwch ni ar Facebook.