Golau gwyrdd i ddatblygiad tai fforddiadwy Cyngor Gwynedd yn Llanystumdwy
Dyddiad: 21/07/2025
Bydd Cyngor Gwynedd yn mynd ati i godi 5 o dai fforddiadwy i bobl leol ynLlanystumdwy yn dilyn sêl bendith gan Bwyllgor Cynllunio Gwynedd.
Mae'r datblygiad yn rhan o raglen adeiladu Tŷ Gwynedd y Cyngor – cynllun sy'n anelu i godi hyd at 90 o gartrefi fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl Gwynedd eu rhentu neu brynu. Amcan y cynllun yw creu cartrefi fforddiadwy, addasadwy, cynaliadwy ac ynni-effeithlon i bobl leol, yn enwedig i’r rheini sy’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i gartref ar y farchnad agored ond sydd efallai ddim yn gymwys am dŷ cymdeithasol.
Ar safle Llanystumdwy, mae'r cynlluniau'n cynnwys un tŷ dwy ystafell wely a phedwar tŷ tair ystafell wely, gyda’r tai wedi'u cynllunio i fod yn hawdd i’w haddasu i allu cynnwys mwy o ystafelloedd pe bai angen yn y dyfodol er mwyn eu gwneud yn gartrefi gydol oes i deuluoedd.
Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo ar safleoedd eraill Tŷ Gwynedd yn Llanberis, Bangor, a Morfa Nefyn, gyda datblygiadau pellach ar y gweill ar draws Gwynedd.
Mae'r datblygiadau hyn yn rhan o Gynllun Gweithredu Tai ehangach gan y Cyngor i fynd i'r afael â'r prinder tai yn y sir a sicrhau bod trigolion Gwynedd yn cael mynediad at dai fforddiadwy o safon yn eu cymunedau eu hunain. Mae’r Cynllun ehangach yn bwriadu darparu dros 1,000 o dai fforddiadwy dros y blynyddoedd nesaf.
Unwaith y bydd y cartrefi yn Llanystumdwy ar fin cwblhau, bydd yn bosib i bobl leol ymgeisio amdanynt trwy Tai Teg, sy’n gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ar gyfer Cyngor Gwynedd. Mae'r Cyngor yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi ei enw ymlaen ar gyfer un o'r tai i wirio’r meini prawf a chofrestru gyda Tai Teg cyn gynted â phosibl: Hafan | Tai Teg
Dywedodd Aelod Cabinet Tai ac Eiddo Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Paul Rowlinson,
“Mae cynllun Tŷ Gwynedd yn gam cadarn tuag at fynd i’r afael â’r prinder cartrefi fforddiadwy yng Ngwynedd. Mae effaith yr argyfwng tai ar ein cymunedau’n glir ac yn peri pryder, gyda gormod o bobl leol yn gweld dim dewis ond gadael eu milltir sgwâr i chwilio am gartrefi. Dyna pam mae’n hollbwysig ein bod ni’n cymryd camau pendant i adeiladu cartrefi newydd sy’n addas ac yn fforddiadwy i bobl Gwynedd.
Mae ein datblygiad yn Llanystumdwy yn ddarn allweddol o’r jig-so ehangach, gan gyfrannu’n uniongyrchol at sicrhau bod ein cymunedau Cymraeg nid yn unig yn goroesi, ond yn ffynnu, ac yn parhau i fod yn llefydd lle mae pobl Gwynedd yn gallu byw, gweithio a chyfrannu’n llawn i gymuned fywiog.”
Mwy o wybodaeth am y cais cynllunio: https://amg.gwynedd.llyw.cymru/planning/index.html?fa=getApplication&reference=C25/0204/41/LL&language=cy
Mwy o wybodaeth am gynllun Tŷ Gwynedd: https://www.gwynedd.llyw.cymru/cy/Trigolion/Tai/Cynllun-T%C5%B7-Gwynedd/Cynllun-T%C5%B7-Gwynedd.aspx