Cynllun Prynu Cartref: Cwestiynau cyffredin

Mae'r dudalen yma’n cynnig atebion i gwestiynau cyffredin am newidiadau sydd ar y gweill i'r ffordd y bydd rhai o gynlluniau tai fforddiadwy yng Ngwynedd yn cael eu gweinyddu.

 

Bydd Cytundeb Lefel Gwasanaeth Cyngor Gwynedd gyda Tai Teg yn dod i ben ar 1 Ebrill 2026. O ganlyniad, bydd y Cyngor yn gweinyddu rhai o'i gynlluniau tai fforddiadwy yn uniongyrchol.

Y cynlluniau cyntaf sy’n cael ei effeithio ydi Cynllun Prynu Cartref Gwynedd a’r asesiadau Adran 106. O 1 Ebrill 2026, bydd y cynlluniau yma’n cael ei weinyddu gan Gyngor Gwynedd yn lle Tai Teg.

Os ydych chi’n bwriadu gwneud cais am dŷ trwy’r Cynllun Prynu Cartref o 1 Ebrill 2026 ymlaen bydd angen i chi gysylltu â Chyngor Gwynedd yn uniongyrchol. Ni fydd Tai Teg yn rhan o’r broses mwyach.

O 1 Ebrill, ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth am y meini prawf ac i ddechrau’r broses o wneud cais. Bydd y wybodaeth yma’n fyw ar y wefan o 1 Ebrill: Cynllun Prynu Cartref

Neu cysylltwch â ni ar:

Bydd Cyngor Gwynedd hefyd yn gwneud pob asesiad ar gyfer eiddo Adran 106 yn uniongyrchol o’r dyddiad hwn ymlaen.

Os ydych chi wedi dechrau’r broses o brynu tŷ trwy’r Cynllun Prynu Cartref gyda Tai Teg, does dim angen i chi wneud dim – byddwch yn parhau gyda Tai Teg. 

Yn ddiweddar, mae Cyngor Gwynedd wedi lansio ei Siop un Stop tai, sy'n anelu at ddarparu un pwynt mynediad i drigolion ar gyfer cyngor a chefnogaeth tai.  

Fel rhan o'r gwaith yma, bydd y Cyngor yn dechrau gweinyddu ei gynlluniau tai fforddiadwy yn uniongyrchol fel y gall trigolion gael mynediad at wasanaethau tai drwy un lle. 

Ar hyn o bryd, yr unig gynllun sy'n newid ydi Cynllun Prynu Cartref ac asesiadau Adran 106.

Bydd cynlluniau eraill yn aros yr un fath am y tro.

Mae Cyngor Gwynedd yn bwriadu gweinyddu cynlluniau tai fforddiadwy ychwanegol yn uniongyrchol yn y dyfodol, gan gynnwys:

Fodd bynnag, bydd y newidiadau hyn yn digwydd gam wrth gam ac nid oes angen i chi wneud dim byd ar hyn o bryd os oes gennych chi ddiddordeb gwneud cais am unrhyw eiddo trwy’r cynlluniau uchod.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rannu pan fydd mwy o fanylion ar gael.

Dyma dabl i ddangos pa gynlluniau sy’n cael eu heffeithio:

Tai Teg
Cynllun Pwy sy’n gweinyddu’r cynllun cyn 1 Ebrill 2026?  Pwy sy’n gweinyddu’r cynllun ar ôl 1 Ebrill 2026?
Cynllun Prynu Cartref  Tai Teg  Cyngor Gwynedd
Hunan-adeiladu  Tai Teg  Cyngor Gwynedd
Eiddo Adran 106 ar Ddisgownt  Tai Teg  Cyngor Gwynedd
Tŷ Gwynedd   Tai Teg  Tai Teg – ond bydd y cynllun yn cael ei drosglwyddo i'r Cyngor yn y dyfodol. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygiad penodol sydd ar y gweill, cysylltwch â Chyngor Gwynedd.
Prynu i Osod   Tai Teg  Tai Teg – ond bydd y cynllun yn cael ei drosglwyddo i'r Cyngor yn y dyfodol.  
Cynlluniau Rhent Canolraddol Cymdeithasau Tai  Tai Teg  Tai Teg
Rhentu i’w Brynu  Tai Teg  Tai Teg
Eiddo Rhan ecwiti  Tai Teg  Tai Teg
Rhan berchnogaeth  Tai Teg  Tai Teg

Os ydi’r cynllun yn parhau i gael ei weinyddu gan Tai Teg (gweler y tabl uchod) - na fyddwch, fyddwch chi ddim yn colli eich lle ar gofrestr Tai Teg.

Os ydi’r cynllun yn cael ei weinyddu gan Gyngor Gwynedd o 1 Ebrill (gweler y tabl uchod), ni fydd angen i chi fod ar gofrestr Tai Teg i fanteisio ar y cynlluniau.

Os ydych eisiau ymgeisio am y Cynllun Prynu Cartref o’r newydd ar ôl 1 Ebrill bydd angen i chi ymgeisio gyda Cyngor Gwynedd. Os ydych eisoes wedi dechrau’r broses, byddwch yn parhau gyda Tai Teg.

Bydd manylion ar gyfer y cynlluniau eraill (Prynu i Osod a Thŷ Gwynedd) yn cael eu cadarnhau maes o law, ond ni fydd angen bod ar gofrestr Tai Teg i ymgeisio amdanynt.

Bydd. Bydd Tai Teg yn parhau i gynnal y gofrestr ganolraddol er mwyn caniatáu i rywun ymgeisio am y cynlluniau sy’n parhau i gael eu gweinyddu gan Tai Teg (gweler y tabl uchod). Fodd bynnag ni fydd y Cyngor yn defnyddio’r gofrestr i dderbyn enwebiadau.

Bydd angen cofrestru gyda Tai Teg ar gyfer cynlluniau tai fforddiadwy’r cymdeithasau tai. 

Ar gyfer cynlluniau’r Cyngor, ni fydd y Cyngor yn cadw cofrestr – yn hytrach, bydd posib cyflwyno ffurflen fynegi diddordeb am y Cynllun Prynu Cartref gyda’r Cyngor ar unrhyw bryd trwy ddolen ar wefan y Cyngor; bydd cynlluniau eraill (Prynu i Osod a Thŷ Gwynedd) yn agor am gyfnod penodol a bydd gofyn i bobl gyflwyno ceisiadau bryd hynny.

Y Siop un Stop tai fydd yn delio efo unrhyw gais ddaw am gynllun trwy’r Cyngor. Mae swyddogion y Siop un Stop yn brofiadol ac yn arbenigo yn y maes tai, gyda blynyddoedd o brofiad yn gweinyddu’r gofrestr am dai cymdeithasol.

Na. Bydd y cynlluniau ar agor tra bod cyllid ar gael. Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio, bydd yn cael ei weithredu ar sail “cyntaf i’r felin”.

Os oes gennych gwestiwn am gynllun sy’n cael ei weinyddu gan y Cyngor, cysylltwch â’r Siop un Stop:

Os oes gennych gwestiwn am gynllun sy’n cael ei weinyddu gan Tai Teg, cysylltwch â Tai Teg:

Os oes gennych unrhyw gwestiwn arall, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni ar: