Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd (2020/1 – 2028/9)

Mae’r cynllun hwn yn nodi camau gweithredu i sicrhau fod pobl Gwynedd yn cael mynediad at dai addas, fforddiadwy ac o safon i’w galluogi i fyw, gweithio a ffynnu yn eu cymuned. Bydd £190 miliwn yn cael ei fuddsoddi a thros 17,000 o bobl yn derbyn cefnogaeth dros oes y cynllun.

Gweld Cynllun Gweithredu Tai Cyngor Gwynedd


Amcanion

  • Sicrhau bod neb yn ddigartref yng Ngwynedd
  • Cynyddu mynediad pobl Gwynedd i dai cymdeithasol
  • Help pobl i brynu tai yn eu cymunedau
  • Sicrhau bod tai yn eco cyfeillgar
  • Gwella iechyd a lles trigolion trwy ddarparu tai o safon uchel.

Mae’r Cynllun Gweithredu Tai yn cynnwys sawl prosiect allweddol i helpu pobl y Sir gael hyd i gartref, gan gynnwys:

Cynlluniau tai â chefnogaeth i'r digartref
Cyfres o ddatblygiadau ‘tai â chefnogaeth’ er mwyn cartrefu pobl sy'n wynebu digartrefedd.


Cynllun Prynu Cartref Gwynedd
Darparu benthyciadau ecwiti i helpu trigolion Gwynedd i brynu tai ar y farchnad agored.

 

Prosiect Tŷ Gwynedd
Datblygu 90 o gartrefi newydd ar draws y sir i bobl leol eu prynu drwy ein cynllun rhannu ecwiti neu eu gosod ar rent fforddiadwy.

 

Cynllun Prynu i Osod
Prynu cartrefi o’r farchnad agored i’w gosod i bobl leol am rent fforddiadwy.


Cefnogi’r Rhaglen Adeiladu Tai Cymdeithasol
Nod y rhaglen, a reolir gan Gyngor Gwynedd drwy Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru, yw darparu 700 o gartrefi fforddiadwy ar y cyd â’n partneriaid tai i drigolion mewn angen.

 

Cynlluniau tai gwag
Ymyraethau i helpu trigolion Gwynedd i adnewyddu tai gweigion i safon byw dderbyniol.

Pecyn cefnogaeth i landlordiaid preifat gartrefu unigolion digartref
Mae Cynllun Lesu Cymru – Gwynedd yn cefnogi landlordiaid preifat drwy eu galluogi i osod eu heiddo i Gyngor Gwynedd, gan helpu i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy i’r rhai mewn angen.

Cyngor ar ynni yn y cartref
Cyngor a chymorth i helpu trigolion i wella effeithlonrwydd ynni yn eu cartrefi a lleihau costau ynni.


Ein partneriaid tai

Rydym yn cydweithio'n agos gyda’n partneriaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru a'r Cymdeithasau Tai sy’n weithredol yng Ngwynedd:


Cysylltwch â ni:

  • 01286 685100
  • opsiynautai@gwynedd.llyw.cymru