Credyd Pensiwn
Mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol i helpu gyda’ch costau byw os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel.
Credyd Pensiwn: Mwy o wybodaeth
Taliad Tywydd Oer
Efallai byddwch yn cael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu gymorth ar gyfer llog morgais.
Taliadau Tywydd Oer: Mwy o wybodaeth
Cynllun Cymorth Tanwydd Gwresogi Oddi ar y Grid
Os ydych chi'n gymwys am y Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (CTRS) am eich bod ar incwm isel, a'ch bod yn dibynnu ar olew gwresogi neu LPG i wresogi eich cartref, rydych yn gymwys i gael taliad untro o £200.
Mwy o wybodaeth a gwneud cais
Great British Insulation Scheme
Mae GBIS yn gynllun dan ofal Ofgem. Fe'i cynlluniwyd i ddarparu gwelliannau i'r cartrefi lleiaf effeithlon o ran ynni yn y DU i fynd i'r afael â thlodi tanwydd a helpu i leihau biliau ynni.
Mwy am GBIS
Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes
Gallech chi gael gostyngiad o £150 ar eich bil trydan o dan y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes. Dydi’r arian ddim yn cael ei dalu i chi – mae’n ostyngiad untro ar eich bil trydan.
Cartrefi Cynnes: Mwy o wybodaeth
Ffyrdd i arbed ynni yn eich cartref
Os ydych yn berchen ar eiddo gallwch gael argymhellion gan Lywodraeth y DU ar welliannau i'r cartref a allai wneud eich eiddo'n rhatach i'w gynhesu a'i gadw'n gynnes.
Mwy o wybodaeth am ffyrdd i safio ynni
Cynllun Uwchraddio Boeleri
Mae'r cynllun yn darparu grantiau i annog perchnogion eiddo i gael gwared ar systemau gwresogi tanwydd ffosil presennol a gosod systemau gwresogi mwy effeithlon, carbon isel yn eu lle.
Mwy o wybodaeth: Cynllun Uwchraddio Boeleri