Terfynau Cyflymder 20mya

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi terfyn cyflymder o 20mya ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru (sy'n ei le ers 17 Medi 2023). 

Mae terfynau 20mya mewn ardaloedd trefol ac yn cynnwys ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi’u gosod dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Gweld mwy o fanylion 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r newid am nifer o resymau sy'n cynnwys:

  • lleihau'r nifer o ddamweiniau ac anafiadau difrifol o ganlyniad i ddamweiniau;
  • annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau;
  • helpu i wella ein hiechyd a llesiant;
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel;
  • diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Beth mae hyn yn ei olygu i Wynedd?

Yn sgil y newid, mae'r terfynau cyflymder 30mya blaenorol wedi  gostwng i 20mya yn y mwyafrif o safleoedd yng Ngwynedd. Ond gyda rhai ffyrdd lle mae yna gyfiawnhad, mae'r y cyfyngiadau wedi aros yn 30mya ac mae gwaith manwl wedi ei gynnal i ystyried y lleoliadau yma gan beirianwyr y Cyngor. 

Mae’r Cyngor hefyd wedi adnabod lleoliadau lle roedd terfynau cyflymder yn 30mya, ond oedd heb eu goleuo yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Mewn lleoliadau lle byddai’n fuddiol i’r gymuned i leihau'r cyfyngiadau cyflymder i 20mya, mae'r Cyngor wedi gwneud hynny drwy gyflwyno gorchymyn traffig.

Fe wnaeth swyddogion y Cyngor drafod gyda Chynghorau Cymuned/Trefol/Dinasol a rhanddeiliaid eraill a chynnal cyfnod derbyn sylwadau am yr argymhellion..  

map Gwynedd- ffiniau

Map yn dangos yr argymhellion ar gyfer Gwynedd

Mae map yn cynnwys Ffyrdd dosbarth A, B a ffyrdd cysylltiedig. Er nad ydi ffyrdd o fewn stadau tai wedi eu dynodi ar y map, mae'r rhain yn newid i 20mya yn unol â’r rhinwedd goleuadau stryd.

 

Mwy o wybodaeth

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun Cymru-gyfan ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.