Terfynau Cyflymder 20mya

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd terfyn cyflymder o 20mya yn cael ei gyflwyno ar gyfer ffyrdd cyfyngedig yng Nghymru o 17 Medi 2023. 

Bydd terfynau 20mya mewn ardaloedd trefol ac yn cynnwys ffyrdd lle mae goleuadau stryd wedi’u gosod dim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Gweld mwy o fanylion 

Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r newid am nifer o resymau sy'n cynnwys:

  • lleihau'r nifer o ddamweiniau ac anafiadau difrifol o ganlyniad i ddamweiniau;
  • annog mwy o bobl i gerdded a beicio yn ein cymunedau;
  • helpu i wella ein hiechyd a llesiant;
  • gwneud ein strydoedd yn fwy diogel;
  • diogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

 

Beth mae hyn yn ei olygu i Wynedd?

Yn sgil y newid, bydd y terfynau cyflymder 30mya presennol yn gostwng i 20mya yn y mwyafrif o safleoedd yng Ngwynedd. Ond gyda rhai ffyrdd lle mae yna gyfiawnhad, bydd y cyfyngiadau yn aros yn 30mya ac mae gwaith manwl wedi ei gynnal i ystyried y lleoliadau yma gan beirianwyr y Cyngor. 

Mae’r Cyngor hefyd wedi adnabod lleoliadau lle mae’r terfynau cyflymder yn 30mya ar hyn o bryd, ond sydd heb eu goleuo yn unol â chanllawiau cenedlaethol. Mewn lleoliadau lle byddai’n fuddiol i’r gymuned i leihau'r cyfyngiadau cyflymder i 20mya, bydd y Cyngor yn gwneud hynny drwy gyflwyno gorchymyn traffig.

Mae swyddogion y Cyngor eisoes wedi trafod gyda Chynghorau Cymuned/Trefol/Dinasol a rhanddeiliaid eraill ac wedi cynnal cyfnod derbyn sylwadau am yr argymhellion a ddaeth i ben ar 28 Ebrill 2023.  

map Gwynedd- ffiniau

Map yn dangos yr argymhellion ar gyfer Gwynedd

Mae map yn cynnwys Ffyrdd dosbarth A, B a ffyrdd cysylltiedig. Er nad ydi ffyrdd o fewn stadau tai wedi eu dynodi ar y map, fe fydd y rhain yn newid i 20mya yn unol â’r rhinwedd goleuadau stryd.

 

Camau nesaf

Diolch i bawb a gyflwynodd sylwadau ar yr argymhellion. Bydd swyddogion y Cyngor yn ystyried yr adborth a gyflwynwyd wrth symud ymlaen i adolygu’r sylwadau a gwneud newidiadau i’r mapiau fel yr angen.

 

Mwy o wybodaeth

Mae mwy o wybodaeth am y cynllun Cymru-gyfan ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.