Trwydded Parcio Trigolion

Gallwch brynu Trwydded Parcio Trigolion os yw eich prif gartref yn rhan o’r cynllun parcio trigolion (telerau ac amodau yn bodoli). 

Prynu Trwydded Parcio Trigolion ar-lein

(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)


Pris trwydded:
£60 y flwyddyn
(Mae rhai cyfeiriadau yn gallu prynu 2 drwydded. Cost ail drwydded: £90) 

 

Cyfeiriadau sy'n rhan o'r cynllun:

 

Tocyn Parcio Ymwelwyr

Mae'n bosib prynu Trwydded Parcio Ymwelwyr fel bod rhywun sy’n ymweld â chi yn gallu parcio mewn ‘bae trigolyn’ am hyd at 24 awr.

Mae’r trwyddedau ymwelwyr yn cael eu gwerthu fesul llyfr o 10. Mae llyfr yn costio £5.

 

Prynu Trwydded Parcio Ymwelwyr ar-lein

(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)


Mwy o wybodaeth....

Am fwy o wybodaeth, neu i brynu dros y ffôn ffoniwch 01766 771000. 

Gallwch hefyd archebu Trwydded Parcio Trigolion a Thrwydded Parcio Ymwelwyr yn unrhyw un o Siopau Gwynedd.