Telerau ac Amodau: Trwydded Parcio Trigolion

  1. Rhaid i’r ymgeisydd am Drwydded Parcio Trigolion fod yn byw yn un o’r cyfeiriadau sydd wedi eu rhestru ar www.gwynedd.llyw.cymru/trwyddedparciotrigolion.
  2. Er mwyn cadarnhau fod perchennog y drwydded yn byw yn y cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen byddwn yn gwirio’r wybodaeth yn erbyn y gofrestr etholwyr lawn. Mae’n bosib y byddwn yn gofyn am dystiolaeth ychwanegol os nad ydi’r enw / cyfeiriad yn cyd-fynd â’r wybodaeth yr ydym ni yn ei ddal.
  3. Mae’n bosib prynu ail drwydded ar gyfer cyfeiriadau yn Lleiniau (St Peter’s Terrace) Pwllheli, a Tre Gof Caernarfon yn unig. Bydd yr ail drwydded yn costio £90.
  4. Dim ond am 12 mis y bydd y drwydded yn ddilys neu am gyfnod y Gorchymyn Rheolaeth Traffig. Bydd y dyddiad dechrau a gorffen yn cael ei argraffu ar y drwydded.
  5. Rhaid arddangos y drwydded ar ffenestr flaen y cerbyd, gan sicrhau bod yr holl wybodaeth yn weladwy o’r tu allan. Mae peidio ag arddangos y drwydded yn drosedd ac efallai y byddwch yn derbyn Rhybudd Tâl Cosb.
  6. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod gennych drwydded ddilys.
  7. Mae’r drwydded yn caniatáu ichi barcio’ch cerbyd yn yr ardal a nodir ar y drwydded yn unig a rhaid parcio pob cerbyd yn gyfochrog â’r ffordd.
  8. Nid yw’r drwydded yn gwarantu y bydd lle parcio ar gael i chi, nac yn rhoi hawl agored i le parcio.
  9. Ni ddylai’r cerbyd fod yn fwy na 5.25m o hyd.
  10. Ni fydd gan y Cyngor unrhyw atebolrwydd pe byddai unrhyw gerbyd neu’i offer yn cael ei ladrata neu ddifrodi mewn lle parcio.
  11. Gall swyddogion yr heddlu a swyddogion gydag awdurdod y Cyngor ddiddymu hawl i ddefnyddio mannau parcio.
  12. Os ydych yn newid eich cerbyd, bydd cost o £10 i drosglwyddo’r drwydded i’r cerbyd newydd a rhaid i chi gynhyrchu’r ddogfen gofrestru cerbyd newydd, sy’n gorfod dangos eich enw a’ch cyfeiriad.
  13. Os ydych yn difrodi Trwydded Parcio Trigolion bydd cost o £10 am ail-argraffu ac ail-anfon y tocyn.
  14. Os ydych yn colli Trwydded Parcio Trigolion bydd cost o £20 am ail-argraffu ac ail-anfon y tocyn.
  15. Os ydych yn defnyddio cerbyd sy’n perthyn i’ch cyflogwr, mae’n rhaid cyflwyno llythyr o gadarnhad ar bapur pennawd y cwmni yn datgan eich hawl i ddefnyddio’r cerbyd at ddibenion busnes.
  16. Bydd e-bost/llythyr atgoffa yn cael ei anfon atoch pan fydd yn amser adnewyddu eich trwydded. Gallwch adnewyddu tocyn 28 diwrnod o flaen llaw.
  17. Yn unol â’r Rheoliadau Gwerthu o Bellter mae gennych saith diwrnod gwaith ar ôl derbyn y telerau ac amodau i ganslo’r gwasanaeth. Bydd rhaid dychwelyd y tocyn parcio cyn y bydd ad-daliad yn cael ei roi. Ar ôl saith diwrnod gwaith, ni fydd ad-daliad ar gael am y tocyn parcio.