Ymchwiliadau llifogydd ffurfiol
Mae gan y Cyngor ddyletswydd i ymchwilio i lifogydd sy'n digwydd o ffynhonellau lleol. Mae ffynonellau llifogydd lleol yn cynnwys dŵr wyneb, cyrsiau dŵr cyffredin (yn cynnwys llynnoedd a phyllau neu fannau eraill gyda dŵr yn llifo i gwrs dŵr cyffredin) a dŵr daear, a lle fo rhyngweithio rhwng y ffynonellau hyn a'r prif afonydd neu'r môr.
Bydd Cyngor Gwynedd yn ymdrechu i gofnodi'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'r holl ddigwyddiadau o lifogydd mewnol yn ogystal â digwyddiadau trwch blewyn. Er hynny, mewn rhai amgylchiadau mae digwyddiad llifogydd yn sbarduno ymchwiliad ffurfiol yn unol ag Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd. Mae adroddiad Adran 19 yn cael ei ddosbarthu i randdeiliaid allweddol ac mae ar gael i'r cyhoedd ei weld.
Y meini prawf i gynnal ymchwiliadau llifogydd Adran 19 ffurfiol sy'n cael eu defnyddio gan y Cyngor yw:
- un neu fwy eiddo wedi cael llifogydd mewnol
- problem llifogydd yn digwydd eto, gan gefnogi hyn gyda chofnodion neu dystiolaeth anecdotaidd o fod wedi digwydd mwy nag unwaith mewn cyfnod o 10 mlynedd i unrhyw leoliad penodol
- bygythiad i fywyd a/neu fygythiad o anaf neu niwed wedi digwydd
- digwyddiad sy'n effeithio ar ardal neu gymuned gyda chrynodiad neu gyfran uchel o bobl diamddiffyn
- digwyddiad sy'n effeithio'n sylweddol ar seilwaith pwysig (dŵr, trin carthion, dosbarthiad trydan/nwy, telathrebu a'r rhwydwaith drafnidiaeth strategol)
- digwyddiad sy'n effeithio'n sylweddol ar wasanaethau hanfodol (gwasanaethau brys, GIG, gwasanaethau Llywodraeth leol neu ganolog)
Yn ôl Adran 19 o'r Ddeddf Rheoli Llifogydd:
Wedi iddo ddod yn ymwybodol bod llifogydd yn ei ardal, rhaid i LLFA, ystyried i ba raddau y creda ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol i adnabod:
- pa awdurdodau rheoli perygl sydd â swyddogaethau rheoli perygl llifogydd perthnasol
- os yw pob un o’r awdurdodau rheoli perygl wedi ymarfer neu yn bwriadu ymarfer y swyddogaethau hynny mewn ymateb i lifogydd
Nid yw'r Ddeddf yn pennu bod yn rhaid i'r LLFA ddatrys y broblem llifogydd. Er hynny, gall canfyddiadau ein hymchwiliad adnabod camau gweithredu a fedrai ostwng y tebygolrwydd o ddigwyddiadau cyffelyb neu adnabod mesurau i leihau'r effeithiau. Swyddogaeth allweddol y drefn adrodd yw ei bod yn adnabod yr ardaloedd lle mae problemau a gall felly gyfarwyddo rhaglenni buddsoddi yn y dyfodol.
Adroddiadau Ymchwilio Llifogydd y gorffennol:
Adroddiadau 2018
- 41 Nyth y Robin, New Street, Porthmadog
- Llwyn Onn, Ffordd yr Eifl, Trefor
- Tan y Fron, Anelog, Aberdaron
Adroddiadau 2017
- Llwyn, Edern
- Botwnnog
- Penygroes Terrace, Llanystumdwy
- Plas Tirion, Pentrefelin
- Glan y Mor Lodge, Felinheli
Adroddiadau 2016
- 2 Ffordd y Coleg, Llwyngwril
Adroddiadau 2015
- 14 Stryd Glanrafon, Bethesda
- 15 Pistyll Terrace, Pistyll
- 13 Stryd Ogwen, Bethesda
- 3 Llwyn Einion, Gellilydan
- 2 Garth Hill Cottages, Bangor
- Brychdir, Rhoshirwaun
- Bryncir Lodge, Cwm Pennant
- Brynkir Lodge, Llanelltyd
- Capel Brynaerau, Pontllyfni
- Clwb Pêl droed, Porthmadog
- Clynnog Fawr
- Crochendy Sarn Fawr, Sarn Mellteyrn
- Cytir Lane, Bangor
- Dolfawr, Llanelltyd
- Dolwar, Pentre'r Efail, Harlech
- Ganolfan Tregarth
- Glan Aber, Parc Penrhyn, Bangor
- Glan Beuno, Clynnog Fawr
- Hen Felin, Pencaenewydd
- Highgate, Dinas
- Llangwnnadl
- Llwyn, Edern
- Marillio a Tŷ Hen, Penisarwaun
- Metcalfe Catering Equipment Ltd, Blaenau Ffestiniog
- Minafon, Dolydd
- Mynydd Llandygai
- Pine Cottage, Lôn Abererch, Pwllheli
- Pont ar Ddyfi, Machynlleth
- Prenteg
- Rhos Palmant, Llaniestyn
- Refail Bach, Llangwnnadl
- Refail, Boduan
- Rhiw Goch, Llanllechid
- Riverside Terrace, Pwllheli
- Spar, Aberdaron
- Stad Glanrafon, Bontnewydd
- Stonehouse a Talrafon, Llanelltyd
- Stryd Wesley, Rhiwlas
- Tan y Lon, Criccieth
- Tremadog
- Turnpike Cottage, Beddgelert
- Tŷ Glan yr Afon, Tal y Bont
- Vanner Farm, Llanelltyd
- Y Dorlan, Abererch
- Yr Hen Swyddfa Bost, Manod, Blaenau Ffestiniog
Adroddiadau 2014
Dim adroddiadau ar gyfer y flwyddyn hon.
Adroddiadau 2012
- 1 Cefn Coed, Penisarwaun
- 14 y Dreflan, Rhosgadfan
- 44 Rhyd Fadog, Deiniolen
- Abbey Decor, Dolgellau
- Abergynolwyn
- Arfon House, Bontnewydd
- Britannia Street, Rachub
- Bro Dawel, Llandwrog
- Bryncrug
- Bryn Eden, Rhos Isaf
- Bryn Isaf, Groeslon
- Bwthyn Bach-Penygraig, Waunfawr
- Byngalo, Llanberis
- Cronfa Ddŵr Pennal
- Cwm Bach, Llanarmon
- Cwm y Glo
- Cytir Lane, Bangor
- Deiniolen a Clwt y Bont
- Efail Feurig, Bryncrug
- Felindre, Pennal
- Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog
- Garej Pant Waun, Waunfawr
- Garnedd Wen, Waunfawr
- Glan Gors Rhosgadfan
- Glan Gors Uchaf, Waunfawr
- Graig Lwyd Farm, Waunfawr
- Gwynfryn, Waunfawr
- Hendre Cennin, Garndolbenmaen
- Heol Maengwyn Tywyn
- Hillsborough Corris Uchaf (Mehefin)
- Hillsborough Corris Uchaf (Rhagfyr)
- Llanfihangel
- Llanberis
- Llangian
- Llwyn Edern
- Min y Nant, Waunfawr
- Mynydd Llandygai
- New Street, Corris
- Pant Afon, Waunfawr
- Pant y Celyn, Llanllyfni
- Pencaerwen, Waunfawr
- Pennal
- Pentir
- Penygraig, Ceunant
- Plas Baladeulyn Nantlle
- Pont Crychddwr Llanllyfni
- Pont y Benllig, Criccieth
- Rhes Vaynol Deiniolen
- Rhianfa Rhosgadfan
- Rhostryfan
- Seiont Manor, Llanrug
- Stryd Moch, Pwllheli
- Talybont A55
- Tan Fynydd, Llanllechid
- Tan y Weirglodd, Clwt y Bont
- Tan yr Allt, Llanllyfni
- Tan yr Allt, Waunfawr
- Tredegar Dyffryn Ardudwy
- Tros y Gors Isaf, Waunfawr
- Ty Hen, Penisarwaun
- Ty Newydd, Pentir
- Ty Newydd, Waunfawr
- Victoria Terace Nantlle
- Y Ship Inn, Llanbedrog
Os oes gennych ymholiadau am adrodd am ddigwyddiadau llifogydd neu i ofyn am gopi o adroddiad Adran 19, e-bostiwch: FCRMU@gwynedd.llyw.cymru