Fforwm Mynediad Lleol
Mae Fforwm Mynediad Lleol (FfML) yn gorff cynghori statudol a grëwyd o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 yng Nghymru a Lloegr. Ei brif bwrpas yw cynghori awdurdodau lleol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, a chyrff eraill sy'n gwneud penderfyniadau ar wella mynediad cyhoeddus i dir ar gyfer hamdden awyr agored.
Beth mae Fforwm Mynediad Lleol yn ei wneud?
- Yn cynghori ar hawliau tramwy cyhoeddus, tir mynediad agored, a materion mynediad cefn gwlad eraill.
- Yn ymateb i ymgynghoriadau ar bolisïau, cynlluniau datblygu, a Chynlluniau Gwella Hawliau Tramwy.
- Yn cynghori a’r rheolaeth, cynnal a chadw ac adolygu hawliau mynediad cyhoeddus i’r cefn gwlad.
- Yn cynghori a’r wella a chynnal hawliau tramwy, a chryfhau cysylltiad a defnyddioldeb y rhwydwaith.
- Yn datblygu strategaethau hamdden a mynediad cynhwysol sy'n diwallu anghenion pob defnyddiwr.
Mae Gwynedd yn cael ei chynrychioli gan dri Fforwm Mynediad Lleol:
Fforwm Mynediad Lleol Arfon a Dwyfor
Mae Fforwm Mynediad Lleol Arfon a Dwyfor yn cynrychioli'r ardaloedd yn Arfon a Dwyfor sydd tu allan i ffin y Parc Cenedlaethol.
Aelodau Fforwm Mynediad Lleol Arfon a Dwyfor
Gwirfoddolwyr a benodir gan yr awdurdod lleol yw'r aelodau. Maent yn cynrychioli cydbwysedd o fuddiannau:
- Defnyddwyr mynediad (cerddwyr, beicwyr, marchogwyr)
- Tirfeddianwyr a rheolwyr tir
- Sectorau perthnasol eraill (twristiaeth, iechyd, cadwraeth)
Mae aelodau'n gwasanaethu mewn rhinwedd bersonol, nid fel cynrychiolwyr sefydliadau penodol.
Aelodau Presennol:
- Gwyn Evans – Ysgrifenydd (Swyddog Cyngor Gwynedd)
- Vincent Mears – Cadeirydd
- David Medcalf – Is-Gadeirydd
- Peter Rutherford
- Coryn Bye
- John Hughes
- Edward Griffith
- Ann Cooper
- Morgan Jones Parry
- Davina Carey Evans
- Cynghorydd Gruffydd Williams
- Dorothy Howard
- Denise Meldrum
- John Gladston
- Noel Davey
- Eurwyn Edwards
- Ifan Parry
- Iona Griffiths
- Nia Edwards-Clarke
- Simon Glyn
- Roger Greenalgh
Rhaid ailbenodi aelodau bob tair blynedd yn unol â Rheoliadau Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Cyfarfodydd sydd i ddod:
- 24 Mawrth 2026
- 2 Mehefin 2026 (Posib o ymweliad safle)
- 22 Medi 2026
Mae croeso i aelodau o'r cyhoedd arsylwi cyfarfodydd ac mae darpariaeth cyfieithu ar gael ac am ddim. Yn bennaf, mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn wyneb yn wyneb mewn gwahanol leoliadau ar draws Arfon a Dwyfor. Mewn sefyllfa arbennig, mae bosib bydd rhain yn cael eu cynnal ar-lein. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Llwybrau@gwynedd.llyw.cymru.
Cyfarfodydd Blaenorol:
- 16 Medi 2025 – Plas Heli, Pwllheli
Mwy o wybodaeth:
E-bost: llwybrau@gwynedd.llyw.cymru