Llyfrgell deithiol a gwasanaeth i'r cartref
Llyfrgell i'r cartref
Rydym yn cynnig gwasanaeth llyfrgell i'r cartref, mewn achosion ble mae person yn:
- dioddef o anawsterau symudedd
- methu cario eitemau
- dioddef o salwch tymor hir
- byw yn bell o fan gwasanaeth llyfrgell (statig neu deithiol)
- ofalwr llawn-amser.
Gwneud cais am wasanaeth llyfrgell i'r cartref ar-lein
Llyfrgell deithiol
Mae lori y llyfrgell deithiol yn mynd i tua 140 o gymunedau Gwynedd yn rheolaidd. Mae llawer o eitemau ar gael yn cynnwys:
- llyfrau ar gyfer plant ac oedolion
- llyfrau print bras
- llyfrau llafar yn Gymraeg a Saesneg
Adnewyddu Llyfr
Mae'n bosib adnewyddu llyfrau o'r llyfrgell deithiol ar-lein.
Adnewyddu Llyfr ar-lein


Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01286 679465 neu 01341 422771