Cefnogaeth i Dadau a gofalwyr
Mae bod yn dad yn siwrne. Mae’r cam mawr yma yn dod gydag emosiynau a heriau, ond hefyd yn dechrau pennod bwysig newydd.
Mae tadau yn aml yn meddwl am sawl agwedd pan maent yn trosglwyddo i fod yn rhiant:
- Ymateb i ofynion ei bartner a babi yn ystod beichiogrwydd
- Delio gyda straen dydd i ddydd
Ar adegau all teimladau o bryder fod yn gryf a chael effaith ar fywyd dyddiol, a chyflyrau fel iselder yn codi, all y profiad o fod yn Dad ei hun fod yn gyffrous.
Yng Ngwynedd, mae Swyddog Cefnogi Teulu yn gweithio i gefnogi tadau, drwy ddarparu gwasanaethau cymorth wedi'u teilwra, gan flaenoriaethu anghenion teuluoedd ac unigolion yng Ngwynedd bob amser.
Mae’r prif gyfrifoldebau o’r rôl yn gallu cael ei dorri lawr i sawl maes allweddol:
- Trefnu a chynnal cyrsiau, dosbarthiadau, gweithgareddau, a chefnogaeth un i un yn benodol i dadau.
- Adnabod a defnyddio'r rhaglenni fwyaf effeithiol i ymateb i ofynion y tadau a’r plant.
- Helpu tadau i adnabod ei anghenion ei hunain a datblygu strategaethau i reoli ymddygiad ei blant a materion dydd i ddydd.
- Darparu mynediad at wybodaeth a dulliau i wella sgiliau tadau i riantu.
- Gweithio yn agos gyda gwasanaethau eraill, asiantaethau a phartneriaid i gynnig gwasanaeth cymorth teuluol cynhwysfawr.
Lle ga i gefnogaeth?
I drafod cefnogaeth, cysylltwch ag Aron Morgan - Swyddog Cefnogi Teulu (Tadau):
Dewis Cymru: Iechyd Meddwl