Gofalwyr ifanc

Wyt ti dan 18 oed? Wyt ti'n edrych ar ôl rhiant, brawd, chwaer, taid neu nain, perthynas arall neu ffrind? Gall y person rwyt yn gofalu amdano fod ag anabledd corfforol neu anabledd dysgu, salwch corfforol neu feddyliol hirdymor, neu broblem alcohol / cyffuriau.

Yn aml, bydd gofalwyr ifanc yn helpu'r person maent yn gofalu amdano i wneud pethau fel:

  • mynd i mewn ac allan o'r gwely ac i fyny a lawr y grisiau
  • ymolchi, gwisgo, mynd i'r tŷ bach
  • coginio, gwaith tŷ, siopa
  • cadw cwmni a chodi eu calon.

Gall hyn olygu dy fod yn teimlo:

  • bod dy waith ysgol yn dioddef
  • yn flinedig, unig, dryslyd neu ar bigau'r drain
  • nad wyt yn cael digon o amser gyda ffrindiau.

 

Mae help ar gael

Mae siarter gofalwyr ifanc Gwynedd yn dweud beth yw dy hawliau di.

Gallwn dy helpu dod o hyd i:

  • rywun fydd yn gwrando arnat ac yn deall
  • cyfleon i gymdeithasu a mwynhau
  • cymorth
  • gwybodaeth
  • adfocatiaeth (rhywun i siarad ar dy ran).

Mae adnoddau hefyd ar gael i helpu gofalwyr ifanc - 

  • Ap Aidi
  • Cardiau adnabod
  • Cynnigion Byw'n Iach
  • Fideo i godi ymwybyddiaeth

Am fwy o wybodaeth ar rhain, cliciwch yma

 

Sut i gael help

Cysyllta â’r Tîm Dyletswydd Plant i ofyn am asesiad o dy anghenion. Bydd y tîm yn ystyried pa gymorth y gallant ei roi i ti.

  • Ffôn: 01758 704455

Cysyllta â Gweithredu Dros Blant. Gallant dy gynghori ac maent yn darparu gwasanaethau ar ran Cyngor Gwynedd.

Os wyt yn yr ysgol, gwna'n siŵr fod yr ysgol yn gwybod am dy sefyllfa – gallant dy gefnogi. Siarada â dy athro cofrestru neu aelod arall o staff.