Cynllun Cysylltu Bywydau

Oes gennych chi’r amser a’r ymroddiad i helpu i ofalu am oedolion bregus yn eich cartref eich hun?

Mae Cysylltu Bywydau yn chwilio am alluogwyr sy’n barod i agor eu cartrefi am dâl i ddarparu:

  • ·         Ysbaid

  •       Gwyliau byr

  • cartref tymor hir.

Mwy o wybodaeth am y cynllun

Mwy o wybodaeth am y cynllun (fersiwn hawdd i'w ddarllen)


Allwch chi gynnig cefnogaeth?

Mae Cysylltu Bywydau Gwynedd a Môn yn credu y dylai pobl allu dilyn y bywydau maent am eu dilyn, tra eu bod yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt yn y cartref o’u dewis hwy. 

Rydym yn trefnu i bobl ag anghenion ychwanegol dreulio cyfnodau byr neu fyw ar sail hir dymor yng nghartrefi pobl sydd wedi’u dewis yn ofalus, sef galluogwyr Cysylltu Bywydau.  Mae’r gefnogaeth sy’n cael ei ddarparu yn hyblyg ac wedi ei deilwro i anghenion yr unigolyn.

 

Byddech yn agor eich cartref er mwyn cefnogi

  • oedolion ag anableddau dysgu
  • oedolion â phroblemau iechyd meddwl
  • oedolion ag anableddau corfforol
  • oedolion â nam synhwyraidd


Pobl sy'n gallu darparu cefnogaeth

  • ·         Ystafell sbâr ac ymrwymiad i gefnogi pobl. 

  •       Mwy na 'gwely a brecwast'.

  • Gallu darparu cartref diogel a sefydlog.
  • Dangos diddordeb gwirioneddol yn y person, a pharodrwydd i roi cefnogaeth i sicrhau cyfleon i'r unigolyn integreiddio i mewn i'r gymuned leol.
  • Parodrwydd i annog y person i barhau ei / ei pherthynas gyda ffrindiau a theulu ac i fynychu canolfan ddydd neu goleg.


Hoffem glywed gennych os

  • ydych eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl?
  • ydych yn frwdfrydig ac yn llawn cymhelliant?
  • ydych yn gadarnhaol a gofalgar?
  • ydych yn sensitif i anghenion pobl?
  • ydych yn gallu gweithio â'r cynlluniau a gytunwyd?
  • ydych yn chwilio am ffordd hyblyg o ennill incwm ychwanegol?

Mae profiad blaenorol yn y sector gofal yn ddefnyddiol ond nid yw’n ofyniad.  Mae brwdfrydedd yr un mor werthfawr.  

 

Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

  • Swydd Wobreuol
    Mae swydd fel gofalwr yn cael ei adnabod fel un o’r swyddi mwyaf gwobreuol ar lefel personol.
  • Hyfforddiant
    Byddwn yn darparu anwythiad, hyfforddiant a chymorth i chi.
  • Cyflogaeth
    Byddwch yn derbyn taliad wythnosol (sy’n cynnwys lwfans treth hael).

Os oes cytundeb tenantiaeth ynghlwm wrth y lleoliad, yna bydd yr unigolyn yn talu rhent am ei ystafell.

 

Cysylltu â ni