Cerdyn gofalwyr dros 18 oed

Ar gyfer pwy mae'r cerdyn?

Mae’r cerdyn ar gyfer gofalwyr di-dâl dros 18 oed- pobl sy’n gofalu am ffrind neu aelod o’r teulu sy’n methu ymdopi ar eu pen eu hunain oherwydd anabledd, salwch neu broblemau cam-drin sylweddau. Rhaid i’r gofalwr neu’r person y maent yn gofalu amdanynt fod yn byw yng Ngwynedd, Môn neu Conwy.

Nid yw’r cardiau hyn ar gyfer gweithwyr gofal sy’n derbyn tâl.

 

Sut mae'r cerdyn yn gweithio?

  • Bydd eich llun a’ch enw yn ymddangos ar flaen y cerdyn, ynghyd â’r dyddiad y bydd y cerdyn yn dod i ben.
  • Bydd y cerdyn yn ddilys am 5 mlynedd.
  • Mae stribed ar gefn y cerdyn er mwyn ysgrifennu rhif ffôn person sydd wedi cytuno i fod yn gyswllt mewn argyfwng.

 

Gwneud cais am gerdyn

Gallwch gofrestru gyda Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr i gael eich cerdyn gofalwyr a mynediad at wybodaeth a chefnogaeth bellach. 

Am fwy o wybodaeth neu i wneud cais am gerdyn:

 

Disgownts lleol

Bydd rhestr o fusnesau lleol sy‘n cynnig disgownt i rai sydd â cherdyn gofalwyr ar gael yma’n fuan.

 

Cwestiynau Cyffredin

Oes:

  • Mae’r cerdyn ar gyfer gofalwyr di-dâl sy’n 18 oed neu hŷn ac sy’n byw neu sy’n gofalu am rywun yng Ngwynedd, Môn neu Gonwy.
  • Rhaid i chi gofrestru gyda Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr er mwyn gwneud cais
  • Mae'r cerdyn yn ddilys am bum mlynedd, ac mae angen i chi wneud cais am un newyddcyn iddo ddod i ben drwy ffonio Cynnal Gofalwyr.
  • Os na fyddwch yn ofalwr mwyach, dylech ddweud wrth Cynnal Gofalwyr, ac ar ôl tri mis, bydd yn rhaid i chi ddychwelyd y cerdyn. 
  • Ni ellir rhannu’r cerdyn gydag unrhyw un arall.

Gwnewch cais am gerdyn newydd drwy gysylltu â Cynnal Gofalwyr: