Gwybodaeth, adnoddau a grwpiau cefnogaeth
Cygnet: Rhaglen Cefnogaeth Rhiantu
Rhaglen 7 wythnos (sesiynau rhwng 2.5-3 awr).
Dyddiadau a lleoliadau i'w cyhoeddi'n fuan.
Beth yw Cygnet? Rhaglen rhiantu i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc awtistig rhwng 5-18 oed.
Beth sydd ar gael? Cyfle i rieni a gofalwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o awtistiaeth ac edrych ar strategaethau ymarferol fydd yn cefnogi eu plentyn/person ifanc. Mae hefyd yn gyfle i gyfarfod pobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg.
Pa bynciau fydd yn cael eu trafod? Gwahaniaethau mewn ffordd o feddwl a phrosesu synhwyraidd, rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu, deall a chefnogi ymddygiad.
Sut i gofrestru? Cysylltwch â awtistiaeth@gwynedd.llyw.cymru i roi eich enw ar y rhestr aros neu i glywed mwy.
Close
Cefnogaeth i blant a theuluoedd
Mae cyngor Gwynedd yn gweithio mewn partneriaeth a BCUHB er mwyn darparu sesiynau paned a sgwrs i rieni plant gyda anghenion dysgu ychwanegol. Does ddim angen diagnosis er mwyn mynychu y sesiynau. Bydd cyfle i drafod gyda gweithwyr proffesiynol ac i gwrdd a rhieni i rannu profiadau. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag:
Mae cefnogaeth hefyd ar gael gan:
Cefnogaeth bellach i oedolion
Mae’r gwasanaeth integredig awtistiaeth yn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth i oedolion awtistig ac i rieni plant awtistig:
Cefnogaeth gyffredinol
Byw yn annibynnol
Sensori
Gall prosesu gwybodaeth synhwyraidd bob dydd fod yn anodd i bobl awtistig. Gall unrhyw un o'r synhwyrau fod yn or-sensitif neu'n dansensitif, neu'r ddau. Gall y gwahaniaethau synhwyraidd hyn effeithio ar sut mae person yn teimlo ac yn ymateb, a gall gael effaith ddwys ar fywyd rhywun.
I ddysgu mwy am wahaniaethau sensori, ewch i:
Awtistiaeth a chyfathrebu
Mae llawer o bobl awtistig yn cael anawsterau sy'n gysylltiedig â chyfathrebu cymdeithasol a rhyngweithio cymdeithasol. Mae anawsterau o'r fath yn aml yn deillio o diffyg dealltwriaeth pobl eraill, a diffyg profiad o ran cyfathrebu â phobl awtistig.
Mae mwy o wybodaeth am gyfathrebu a rhyngweithio cymdeithasol ar gael drwy ddilyn y lincs isod:
Cefnogaeth i rieni a gofalwyr
Iechyd meddwl