Rhandiroedd
Yng Ngwynedd, caiff safleoedd rhandiroedd eu rheoli gan gyrff preifat/ grwpiau neu Gynghorau Tref/ Cymuned.
I wneud cais am randir, cysylltwch â’r enw cyswllt perthnasol ar y rhestr o randiroedd.
Os yr ydych yn byw yn ardal Tywyn a gyda diddordeb mewn gwneud cais am randiroedd sydd wedi eu lleoli ar Ffordd Cambrian, nodwch taw Adra sy’n gyfrifol am y rhandiroedd yma. Er mwyn gwneud mwy o ymholiadau am y rhandiroedd yma, cysylltwch â Adra yn uniongyrchol ar 0300 123 8084 neu ymholiadau@adra.co.uk.
Buddion sefydlu rhandir
Mae garddio rhandiroedd yn darparu ystod eang o fuddiannau i unigolion, i’r gymuned ac i’r amgylchedd.
Ceir llawer o fanteision o fod yn berchen ar randir, yn cynnwys:
- cynnyrch ffres, lleol a thymhorol
- tyfu bwyd fforddiadwy i helpu gyda chostau wythnosol
- awyr iach, mannau agored ac ymarfer corff
- ymlacio ar ôl diwrnod prysur
- cymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd sy’n rhannu'r un diddordebau
- lleihau’r effaith amgylcheddol ar y gadwyn fwyd
- helpu plant i ddysgu am yr amgylchedd
- darparu cynefinoedd i nifer o wahanol fathau o fywyd gwyllt
- cefnogi datblygiad planhigion newydd a diogelu mathau prin ac unigryw.