Cofrestru a lansio cwch pŵer / jet-sgi

Rhaid i bob cwch pŵer a jet-sgi sy’n cael ei lansio yng Ngwynedd fod:

  1. wedi cofrestru gyda Chyngor Gwynedd
  2. gyda thrwydded lansio (flynyddol neu ddyddiol) gyfredol.

Mae’r drwydded flynyddol yn rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth bob blwyddyn.

Cofrestru a lansio cwch pŵer / jet-sgi 2024/25

(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod.)

Gweld telerau ac amodau

 

Pris 2024/25

  • Cofrestru a trwydded lansio blynyddol:  £180
  • Cofrestru yn unig: £70

 

Cwestiynau Cyffredin

Rhaid i bob cwch pŵer a jet-sgi sy’n cael ei lansio yng Ngwynedd fod wedi cofrestru gyda Chyngor Gwynedd.

Os ydi peiriant eich cwch yn llai na 10 HP bydd dal angen ei chofrestru. Bydd rhaid cofrestru cwch gyda pheiriant llai na 10HP yn y safle lansio neu yn y Swyddfa Harbwr, gyda'r cwch ar gael i'w archwilio. Bydd ffi o £40 (i'w dalu ar y safle wrth gofrestru).

Bydd angen i chi drefnu i gasglu eich rhif cofrestru/ trwydded lansio o un o Swyddfeydd Harbwr Gwynedd.  Pan yn archebu ar-lein bydd opsiwn i chi ddewis o pa swyddfa ydych chi am eu casglu.

Pan ydych yn mynd i’w casglu bydd angen i chi fynd â’r e-bost cadarnhau efo chi, neu eich rhif archebu.

Mae’r drwydded lansio dyddiol (£22) yn eich galluogi i lansio eich cwch/jet-sgi o lanfeydd Gwynedd am un diwrnod yn unig (eithrio Harbwr Pwllheli). Rhaid i’r cwch/jet-sgi fod wedi ei chofrestru yng Ngwynedd cyn y gallwch brynu trwydded ddyddiol.

Y ffordd hawsaf i gofrestru a phrynu y trwydded lansio yw i wneud hynny ar-lein.

Mae hefyd yn bosib eu prynu o Swyddfeydd Harbwr Gwynedd drwy'r flwyddyn, ac o draeth Abersoch a Morfa Bychan rhwng 1 Ebrill a 30 Medi (arian parod yn unig).

Bydd angen i chi gofrestru y cwch/jet-sgi newydd.

Os oes gennych drwydded lansio flynyddol bydd yn bosib trosglwyddo hon i'r cwch/jet-sgi newydd. Byddwn angen cadarnhad o enw a chyfeiriad post llawn y perchennog newydd cyn y gallwn gyflwyno trwydded newydd. Bydd ffi o £70 yn daladwy i Cyngor Gwynedd.

Am fanylion pellach ffoniwch y Swyddfa Forwrol ar 01758 704066. 

Os yw eich trwyddedau yn cael eu colli neu eu difrodi cysylltwch â ni ar 01758 704066 neu drwy e-bostio: morwrol@gwynedd.llyw.cymru

Os oes gennych unrhyw ymholiad am gofrestru neu lansio cwch yng Ngwynedd, cysylltwch â ni:

Mae hefyd yn bosib y gallwch ddod o hyd i ateb eich cwestiwn yn:


Mwy o wybodaeth

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â'r Swyddfa Harbwr berthnasol.