Celfyddydau Cymunedol
Mae Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn cynnal cyfres o gynlluniau blynyddol sy’n cefnogi pobl gael mynediad at, mwynhau a phrofi’r celfyddydau, a hynny er lles unigolion, cymdeithas, yr economi a chymuned.
Bob blwyddyn mae Uned Celfyddydau Cymunedol Gwynedd yn cynnal rhaglen o wahanol weithgareddau a phrosiectau ar draws y sir. O weithdai i arddangosfeydd, cyrsiau i grantiau a gwyliau i gynlluniau creadigol, rydym am i bawb fwynhau'r celfyddydau.
Gweledigaeth ac Egwyddorion Diwylliant Gwynedd
Gweledigaeth: “Mae diwylliant yng Ngwynedd yn hanfodol, yn arloesol ac wedi’i wreiddio yn ein cymunedau. Mae’n rhoi lliw i fywyd, yn hyrwyddo lles, ac yn adlewyrchu ein hunaniaeth amrywiol a’n Cymreictod yn hyderus i Gymru a’r byd. Mae diwylliant yng Ngwynedd yn fyrlymus ac yn fyw a gyda’n gilydd, rydym eisiau cynnal, cefnogi a thyfu diwylliant sy’n perthyn i bawb - heddiw ac i'r dyfodol”.
Hanfodol i fywyd
Diwylliant fel rhan greiddiol o’n cymunedau, ein iechyd a’n lles.
Arloesol ac uchelgeisiol
Yn creu syniadau newydd, yn gosod safonau uchel ac yn adnabod ffynonellau cyllido i gefnogi gweithredu
Perthyn a chysylltiedig
Yn perthyn i’n cymunedau, yn esblygu ac yn adeiladu rhwydweithiau cryf.
Cynhwysol a chynnes
Croesawu pawb, o bob cefndir ac oed.
Cryf a charedig
Yn meithrin hyder, parch a gofal gyda sgiliau perthnasol i gefnogi diwylliant a llesiant.
Heriol, beiddgar a syml
Arloesi heb eithrio gyda dulliau effeithiol o fesur effaith ein gweithgaredd.
Cynaliadwy a chyfrifol
Yn gwarchod rhinweddau arbennig, adnoddau a’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Dathlu hunaniaeth, treftadaeth a’r Gymraeg
Yn adlewyrchu ein diwylliant amrywiol a’r Gymraeg yn hyderus i Gymru a’r byd.
Cyfoethogi llesiant ac economi
Diwylliant fel grym cadarnhaol i iechyd, addysg, hapusrwydd ac economi leol.
Mwynhad a phrofiadau
Yn cynnig hwyl, adloniant a chyfleoedd i gymdeithasu a dysgu’n anffurfiol.
Grantiau
Mae grantiau ar gael i gefnogi gweithgarwch celfyddydol. Gallwn hefyd gefnogi perfformiadau proffesiynol yn y gymuned drwy raglen Noson Allan a Noson Allan Fach, mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru.
Mwy o fanylion am gronfeydd ariannol
Digwyddiad Dathlu Diwylliant Gwynedd Er Lles Pawb
Mae’r sector diwylliant wedi dod ynghyd yn ddiweddar ym Mhortmeirion ar gyfer digwyddiad arbennig i ddathlu.
Wedi ei drefnu gan Cyngor Gwynedd, roedd y digwyddiad llawn bwrlwm gyda bron i 80 yn mynychu - yn gyfle i ddysgu, archwilio a dathlu’r sector gyda rhanddeiliaid, gan amlygu pwysigrwydd diwylliant er lles pawb.
Stori lawn yma
Mwy o wybodaeth...
Am newyddion, cyfleoedd, digwyddiadau, manylion artistiaid a mudiadau celfyddydol Gwynedd ymwelwch â Gwynedd Greadigol, neu dilynwch ni ar Instagram a Facebook.
Cysylltu â ni
Cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Celfyddydau Cymunedol ar:
Y Ffôn: 07765 652742
Instagram: @celfgwyneddarts