Cronfa Celfyddydau Cymunedol
Cronfa i gefnogi grwpiau cymunedol a gwirfoddol i gynnal gweithgareddau celfyddyd gymunedol yng Ngwynedd. Grantiau hyd at £500 ar gael.
Sicrhewch eich bod yn darllen y canllawiau cyn llunio eich cais. Cysylltwch am gyngor a gwybodaeth bellach celf@gwynedd.llyw.cymru
Dyddiadau cau:
31 Mawrth 202630 Mehefin 2026- 30 Medi 2026
- 15 Rhagfyr 2026
Rydym yn anelu i gysylltu ag ymgeiswyr gyda chanlyniadau eu cais o fewn pythefnos wedi'r dyddiad cau. Byddwn yn cydnabod derbyn pob cais a ddaw i law.
Noson allan
Mae Uned Celfyddydau Cymunedol yn gweithio mewn partneriaeth â Noson Allan.
Oes canolfan gymunedol, neuadd bentref neu glwb ieuenctid gyda chi?
Hoffech chi groesawu perfformiadau proffesiynol i'ch canolfan?
Hoffech chi osgoi'r pen tost o boeni am y risg ariannol?
Ydych chi'n poeni nad allwch ei fforddio? Gallwch, mi allwch.
Gallwn gynnig cyllid, cyngor, tocynnau a gwefan gyfoes gyda manylion am y cwmnïau a'r sioeau sydd ar gael. Gallwch wneud cais i'r cynllun a reolir gan Uned Teithio Cymunedol Cyngor Celfyddydau Cymru mewn partneriaeth â Uned Celfyddydau Cymunedol Cyngor Gwynedd.
Ydych chi'n berfformiwr proffesiynol, cwmni theatr neu fand a hoffai ymuno â'r cynllun? Ymwelwch â'r wefan am fwy o fanylion www.nosonallan.org.uk (yn agor mewn tab newydd)
Cronfeydd Grant Posib Eraill
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn darparu cefnogaeth ariannol i’r celfyddydau - ewch i Celf Cymru (yn agor mewn tab newydd) am fwy o fanylion.
Gwybodaeth bellach
Ffoniwch 07765652742 neu e-bostiwch celf@gwynedd.llyw.cymru