Dinasyddiaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweinyddu seremonïau dinasyddiaeth ar ran y Swyddfa Gartref. Seremoni dinasyddiaeth ydi’r cam olaf yn y broses o wneud cais i ddod yn ddinesydd Prydeinig. 

Mae angen i bob unigolyn dros 18 mlwydd oed sy’n symud i Brydain i fyw ac am ddod yn ddinesydd Prydeinig gymryd llw mewn seremoni dinasyddiaeth o fewn 3 mis i’w cais am ddinasyddiaeth gael ei gymeradwyo.

 

Sut mae gwneud cais i ddod yn ddinesydd Prydeinig?

I wneud cais i ddod yn ddinesydd Prydeinig bydd angen i chi gysylltu gyda’r Swyddfa Gartref. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan yr UK Border Agency (cyswllt allanol). 

 

Sut mae trefnu seremoni dinasyddiaeth?

Os ydych yn byw yng Ngwynedd ac yn derbyn llythyr gan y Swyddfa Gartref yn nodi fod angen i chi fynychu seremoni dinasyddiaeth, ffoniwch 01766 771000.

 

Pryd mae’r seremonïau yn cael eu cynnal yng Ngwynedd?

Yn arferol, bydd seremonïau dinasyddiaeth yn cael eu cynnal unwaith y mis yn Swyddfa Gofrestru Caernarfon. Am ragor o wybodaeth neu i drefnu seremoni, ffoniwch 01766 771000.

 

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth yn ymwneud â chyflwyno cais am ddinasyddiaeth Brydeinig, ewch i wefan yr UK Border Agency (cyswllt allanol)

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â’r seremoni dinasyddiaeth ei hun, ffoniwch 01766 771000.