Ymgynghoriad Ardoll Ymwelwyr Gwynedd

Cyfnod yr ymgynghoriad: 20 Mai - 15 Gorffennaf 2026

 

Pwrpas yr ymgynghoriad

Yn dilyn penderfyniad mewn cyfarfod o Gyngor Llawn Cyngor Gwynedd ar 14 Mai 2026, mae Cyngor Gwynedd yn mynd ymlaen i ymgynghori ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Ymwelwyr yn y sir.

Rydym eisiau eich barn fel trigolion, busnesau, ymwelwyr neu randdeiliaid er mwyn eu hystyried yn ein trafodaethau.

Nid yw Cyngor Gwynedd wedi gwneud penderfyniad eto ynghylch cyflwyno ardoll yn lleol, ond mae'r dogfennau perthnasol ar y dudalen hon yn egluro sut gallai Ardoll gael ei weithredu yn lleol.

 

Beth yw'r Ardoll Ymwelwyr?

Bydd yr ardoll yn dâl dyddiol a delir gan bobl sy'n aros dros nos mewn llety i ymwelwyr, megis gwestai, bythynnod gwyliau, llety gwely a brecwast, a meysydd gwersylla. Ei nod yw cefnogi cymunedau, diwylliant a’r iaith Gymraeg, busnesau, cyfleusterau a’r amgylchedd leol trwy ail fuddsoddi’r incwm yn ôl yn yr ardal.
Gweld mwy o wybodaeth gefndirol am yr ardoll ymwelwyr 

 

Cyfraddau'r ardoll

  • Maes gwersylla pebyll a llofftydd a rennir (hosteli a dorm): £0.75 y person y nos (£0.90 yn cynnwys TAW)
  • Pob math arall o lety gwyliau (carafán, cartref modur hunan-ddarpar, gwely a brecwast, gwesty, ayyb.): £1.30 y person y nos (£1.56 yn cynnwys TAW)


Eithriadau i'r ardoll

Ni fyddwch yn talu'r ardoll ymwelwyr os ydych chi:

  • o dan 18 oed ac yn gwersylla mewn pabell neu'n aros mewn ystafell a rennir gydag eraill (fel llety math hostel neu ystafelloedd aml-wely)
  • yn aros mwy na 31 noson ar un archeb
  • yn aros mewn llety brys neu dros dro a drefnwyd gan y cyngor lleol


Dogfennau perthnasol

 

Dweud eich dweud

Mae'n bwysig eich bod yn darllen yr holl ddogfennau perthnasol uchod cyn i chi roi eich barn drwy gwblhau'r holiadur.

Holiadur ar-lein: Rhoi eich barn

Bydd copïau papur ar gael yn llyfrgelloedd a Siopau Gwynedd y sir.

I dderbyn copi papur drwy'r post, cysylltwch â ni:

Sesiynau rhannu gwybodaeth

Bydd sesiynau rhanddeiliaid yn cael eu cynnal yn ystod yr ymgynghoriad

Digwyddiadau rhannu gwybodaeth
Dyddiad ac amserLleoliad Archebu lle 
 Dydd Llun, 15 Mehefin
15:00
Galeri Caernarfon  Archebu lle ar gyfer digwyddiad Caernarfon
 Dydd Iau, 18 Mehefin
17:00
 Neuadd Goffa, Cricieth Archebu lle ar gyfer digwyddiad Cricieth
Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 
13:45
 Y Llyfrgell Rydd, Dolgellau Archebu lle ar gyfer digwyddiad Dolgellau

Sesiynau galw heibio

 

Dyddiad ac amserLleoliad Manylion

Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2026 
10:00-12:00

Prince Llywelyn, Beddgelert

Digwyddiad Beddgelert

Dydd Llun, 6 Gorffennaf 2026
14:00-16:00

Y Ganolfan, Llanberis

Digwyddiad Llanberis

Dydd Mercher, 8 Gorffennaf, 2026
10:00-12:00

Neuadd Dyfi, Aberdyfi

Digwyddiad Aberdyfi

Dydd Mercher, 8 Gorffennaf, 2026
14:00-16:00

Byw’n Iach, Bala

Digwyddiad Bala

Dydd Gwener, 10 Gorffennaf, 2026
10:00-12:00

Neuadd Abersoch

Digwyddiad Abersoch

Dydd Gwener, 10 Gorffennaf, 2026
14:00-16:00

Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Digwyddiad Pwllheli

Nid oes angen i chi archebu lle, dewch draw ar y diwrnod am sgwrs neu gymorth ynghylch yr ymgynghoriad.

 

Byddwn yn rhannu diweddariadau drwy’r Bwletin Busnes ac ar y dudalen we hon.

Gallwch hefyd gofrestru i fod yn rhan o Bartneriaeth Gwynedd ac Eryri, lle bydd diweddariadau am yr ardoll ymwelwyr yn cael eu darparu drwy e-bost ac yn ystod cyfarfodydd y bartneriaeth pan fo’n berthnasol.