Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Bangor
Beth yw Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC)?
Mae GDMC yn un o'r pwerau a gyflwynwyd gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a’r Heddlu 2014. Mae'n rhoi pwerau i awdurdodau lleol orfodi cyfyngiadau a gofynion ar unigolion o fewn ardaloedd dynodedig, mae hyn er mwyn mynd i'r afael â niwsans neu broblemau penodol mewn ardaloedd gyda'r nod o wella bywyd ymwelwyr a thrigolion yn yr ardal.
GDMC Bangor
Ym Mangor, mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) mewn lle ers 2019, ac mae’n hanfodol ar gyfer plismona’r Canol y Ddinas ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ers ei gyflwyno yn 2019 mae wedi cael effaith amlwg o ran lleihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed ar y stryd drwy roi pwerau i swyddogion ymateb yn gymesur ac yn effeithiol i ymddygiad sydd wedi achosi, neu sy’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu ofid i aelodau’r cyhoedd.
Gellir cyflwyno Gorchmynion am uchafswm o dair blynedd, a gellir eu ymestyn y tu hwnt i hyn am gyfnodau pellach o dair blynedd. Mae'r Gorchymyn presennol wedi profi i fod yn werthfawr wrth gynnal diogelwch a hyder cymunedol. Fodd bynnag, mae'r ymddygiadau sylfaenol yn parhau a heb y pwerau parhaus a roddir gan y gorchymyn, mae'n debygol y bydd y problemau hyn yn ailymddangos er anfantais i drigolion a busnesau.
Cyn ystyried cyflwyno neu ymestyn GDMC, rhaid i'r Awdurdod Lleol fod yn fodlon:
- Fod ymddygiad o'r fath mewn gofod cyhoeddus wedi cael, neu'n debygol o gael, effaith niweidiol ar ansawdd bywyd pobl yn y gymdogaeth.
- Bod y gweithgareddau hyn yn, neu'n debygol o fod, yn aml ac o fewn natur barhaus.
- Bod y gweithgareddau hyn yn, neu'n debygol o fod, yn afresymol.
- Eu bod yn cyfiawnhau'r cyfyngiadau a amlinellir.
Beth yw'r cyfyngiadau arfaethedig?
Mae'r cyfyngiadau wedi'u datblygu'n benodol i ddelio â'r mathau o ymddygiad sy'n achosi'r problemau mwyaf difrifol yn ardal y Stryd Fawr a’r cyffiniau sef:
- Ni chaiff unigolyn ddilyn dull o ymddygiad sy'n achosi aflonyddu, braw, niwsans, neu drallod.
- Ni chaiff unigolyn yfed alcohol os yw Person Cymeradwy yn gofyn i'r unigolyn stopio yfed.
- Ni chaiff person loetran mewn cyflwr o feddwdod o ganlyniad i gymryd alcohol neu gyffuriau.
Beth yw ardal y GDMC?
Map ardal GDMC Bangor
Dweud eich dweud
Mae cyfnod 3 mlynedd y Gorchymyn yn dod i ben yn fuan. Rydym yn awyddus i ymgynghori gyda’r gymuned lleol – (y rhai sydd yn byw, gweithio ac ymweld a’r ardal) ar y bwriad i ymestyn y Gorchymyn am gyfnod o 3 mlynedd arall.
Os oes unrhyw wrthwynebiad neu sylwadau plîs cysylltwch â ni:
Mi fydd cyfle i chi rannu'ch barn tan y 3 Tachwedd, 2025
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd eich adborth yn cael ei ystyried gan swyddogion Diogelwch Cymunedol y Cyngor mewn partneriaeth gyda’r Heddlu cyn gwneud penderfyniad os dylid ymestyn cyfnod y GDMC presennol.
Cysylltu â ni
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni: