Arolwg Busnes 2025 Cyngor Gwynedd
Dyddiad cau: 1af Rhagfyr, 2025
Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal arolwg i lunio darlun clir o’r hinsawdd fusnes bresennol ac i ddeall anghenion busnesau lleol yn well. Rydym yn awyddus i glywed gan fusnesau o bob sector am yr heriau rydych chi’n eu hwynebu, y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd eich adborth yn ein helpu i deilwra gwasanaethau sy’n cefnogi’r gymuned fusnes yn fwy effeithiol.
Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd, gan gynnig mewnwelediad gwerthfawr i dueddiadau a heriau lleol. Mae’r arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.
Rhoi eich barn
Cwblhau ar-lein: Arolwg Busnes 2025
Gofynnwn i chi gyflwyno eich ymateb cyn hanner nos ar 1 Rhagfyr, 2025.
Am gopi papur o’r holiadur ynghyd ag amlen bost am ddim cysylltwch â ni: busnes@gwynedd.llyw.cymru / 01286 679505.