Panel Trigolion Gwynedd

Beth yw’r Panel Trigolion?

Grŵp cynrychiadol sy’n cael cyfle rheolaidd i ddweud eu dweud ar wasanaethau lleol yw’r Panel. Mae aelodaeth y Panel yn adlewyrchu poblogaeth y sir o ran:

  • oedran;
  • rhyw;
  • iaith;
  • cenedligrwydd;
  • hil;
  • crefydd;
  • cyfeiriadedd rhywiol;
  • anabledd;
  • lleoliad daearyddol. 

Mae sicrhau fod llais pobl Gwynedd yn ganolog i waith y Cyngor yn bwysig i ni. Bydd barn ac adborth aelodau’r Panel yn cynorthwyo’r Cyngor wrth gynllunio, darparu ac adolygu gwasanaethau lleol ar gyfer y dyfodol.

Bwriad y Panel Trigolion yw ei wneud yn hawdd ac yn hwylus i chi gymryd rhan a dweud eich dweud ar y pethau sy’n bwysig i chi. 

Fel aelod byddwch yn...

  • derbyn newyddion am arolygon ar bynciau fydd yn amrywio o  lanweithdra strydoedd, llwybrau cyhoeddus neu gyllideb y Cyngor;
  • cymryd rhan mewn oddeutu 4 arolwg penodol y flwyddyn ac o bryd i’w gilydd;
  • cael cynnig i  gymryd rhan mewn grwpiau ffocws, gweithdai neu fforymau.   

Ar ôl pob arolwg caiff y canlyniadau eu dadansoddi a bydd adroddiad yn cael ei gynhyrchu a’i gyflwyno i Aelodau’r Cyngor a’r tîm rheoli corfforaethol. Os oedd yr arolwg yn delio â gwasanaeth penodol, bydd yr adroddiad yn mynd i reolwyr y gwasanaeth hwnnw hefyd.

Bydd canlyniadau pob arolwg ar gael i’w gweld ar dudalen ‘dweud eich dweud’ y Cyngor. Pan fyddwn yn cynnal yr arolygon penodol gyda’r Panel byddwn yn gyrru e-bost gyda chrynodeb o’r prif ganfyddiadau i’r aelodau. 

Caiff holl fanylion a sylwadau aelodau’r Panel eu trin yn gwbl gyfrinachol gan gydymffurfio gyda’r Ddeddf Diogelu Data (2018). Ni fyddwn yn rhannu’r manylion gydag unrhyw sefydliad arall.

Am fwy o fanylion am y Ddeddf ac am fanylion cyswllt ein Swyddog Diogelu Data gwelwch: 
Datganiadau preifatrwydd a chwcis 

 

Ymuno â'r Panel 

Cliciwch yma os hoffech chi

Ymuno â'r Panel 

Rydym yn cynnal mwyafrif o'n harolygon Panel ar-lein er mwyn arbed arian a'r amgylchedd. Os nad ydych yn fodlon cymryd rhan ar-lein ond eisiau bod yn rhan o'r Panel drwy ddull arall, er enghraifft, drwy lenwi holiaduron dros y ffôn, cysylltwch â ni drwy ffonio 01286 679339 neu e-bostio paneltrigolion@gwynedd.llyw.cymru