Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus Bangor

Beth yw Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC)?

Mae GDMC yn un o'r pwerau a gyflwynwyd gan Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Trosedd a’r Heddlu 2014. Mae'n rhoi pwerau i awdurdodau lleol orfodi cyfyngiadau a gofynion ar unigolion o fewn ardaloedd dynodedig, mae hyn er mwyn mynd i'r afael â niwsans neu broblemau penodol mewn ardaloedd gyda'r nod o wella bywyd ymwelwyr a thrigolion yn yr ardal.

 

GDMC Bangor 

Ym Mangor, mae Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) mewn lle ers 2019, ac mae’n hanfodol ar gyfer plismona’r Canol y Ddinas ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ers ei gyflwyno yn 2019 mae wedi cael effaith amlwg o ran lleihau achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed ar y stryd drwy roi pwerau i swyddogion ymateb yn gymesur ac yn effeithiol i ymddygiad sydd wedi achosi, neu sy’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu ofid i aelodau’r cyhoedd.

Gellir cyflwyno Gorchmynion am uchafswm o dair blynedd, a gellir eu ymestyn y tu hwnt i hyn am gyfnodau pellach o dair blynedd. Mae'r Gorchymyn presennol wedi profi i fod yn werthfawr wrth gynnal diogelwch a hyder cymunedol. Fodd bynnag, mae'r ymddygiadau sylfaenol yn parhau a heb y pwerau parhaus a roddir gan y gorchymyn, mae'n debygol y bydd y problemau hyn yn ailymddangos er anfantais i drigolion a busnesau.

Cyn ystyried  cyflwyno neu ymestyn GDMC, rhaid i'r Awdurdod Lleol fod yn fodlon:

  • Fod ymddygiad o'r fath mewn gofod cyhoeddus wedi cael, neu'n debygol o gael, effaith niweidiol ar ansawdd bywyd pobl yn y gymdogaeth.
  • Bod y gweithgareddau hyn yn, neu'n debygol o fod, yn aml ac o fewn natur barhaus.
  • Bod y gweithgareddau hyn yn, neu'n debygol o fod, yn afresymol.
  • Eu bod yn cyfiawnhau'r cyfyngiadau a amlinellir.

Beth yw'r cyfyngiadau?

Mae'r cyfyngiadau wedi'u datblygu'n benodol i ddelio â'r mathau o ymddygiad sy'n achosi'r problemau mwyaf difrifol yn ardal y Stryd Fawr a’r cyffiniau sef:

  1. Ni chaiff unigolyn ddilyn dull o ymddygiad sy'n achosi aflonyddu, braw, niwsans, neu drallod. 
  2. Ni chaiff unigolyn yfed alcohol os yw Person Cymeradwy yn gofyn i'r unigolyn stopio yfed. 
  3. Ni chaiff person loetran mewn cyflwr o feddwdod o ganlyniad i gymryd alcohol neu gyffuriau. 
  4. Loetran neu berfformio o fewn 10 metr o beiriant codi 

Beth yw ardal y GDMC?

Map ardal GDMC Bangor

 

Dweud eich dweud

Daeth y cyfnod i chi rannu'ch barn ar y GDMC i ben ar 3 Tachwedd, 2025. 

 

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd eich adborth yn cael ei ystyried gan swyddogion Diogelwch Cymunedol y Cyngor mewn partneriaeth gyda’r Heddlu cyn gwneud penderfyniad os dylid ymestyn cyfnod y GDMC presennol.

 

Cysylltu â ni

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni: