Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur
Mae Cyngor Gwynedd wedi datgan yn glir bod ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur yn un o’i flaenoriaethau, ac mae Gwynedd Werdd yn un o 7 maes blaenoriaeth yng Nghynllun Cyngor Gwynedd 2023-2028.
 
Uchelgais y Cynllun yw “Bydd Cyngor Gwynedd yn garbon sero net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030.”   Mae’r uchelgais yn cyd-fynd â tharged Llywodraeth Cymru i sefydliadau’r sector gyhoeddus ar y cyd fod yn garbon sero net erbyn 2030 ac i Gymru fod yn wlad sero net erbyn 2050.
Mae ein Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur yn cynnwys nifer o brosiectau o fewn y prif themâu:
- adeiladau ac ynni  
- symud a thrafnidiaeth   
- gwastraff
- llywodraethu   
- caffael
- defnydd tir 
- ecoleg  
 
Os hoffech fwy o wybodaeth am y Cynllun Argyfwng, darllenwch y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur
 
Rhoi eich barn 
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 31 Gorffennaf 2025.
 
Canlyniadau
Bydd canlyniadau yr ymgynghoriad ar gael cyn bo hir.