Arolwg Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu

Mae'r arolwg yma bellach ar gau.

 

Rydym eisiau clywed eich barn chi ar Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd (drafft).

Y strategaeth hon fydd yn siapio gwasanaethau gwastraff lleol Gwynedd hyd at y flwyddyn 2030. Ei phrif amcanion ydi:

  • Lleihau faint o wastraff sy'n cael ei gynhyrchu gan ein trigolion a busnesau
  • Annog pobl i ail-ddefnyddio a thrwsio pethau cyn eu taflu
  • Ailgylchu, ailddefnyddio a chompostio o leiaf 70% o’r gwastraff a gynhyrchir i gyflawni targedau’r Llywodraeth
  • Darparu Gwasanaeth Casglu Gwastraff ac Ailgylchu o ansawdd uchel ble mae diogelwch, lles a gwerthoedd ein staff, yn ogystal â gofal a bodlonrwydd cwsmeriaid, yn rhan annatod o'n hegwyddorion craidd
  • Creu Gwasanaeth Gwastraff sy'n garbon niwtral (e.e. defnyddio cerbydau allyriadau carbon isel a lleihau gwastraff yn gyffredinol)
  • Buddsoddi yn ein safleoedd trin gwastraff er mwyn gallu delio efo mwy o wastraff yn lleol.

Gweld Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu Cyngor Gwynedd (drafft)

 

Rhoi eich barn

Daeth yr arolwg i ben ar y 30 Tachwedd, 2025.