Arolwg Busnes 2025 Cyngor Gwynedd

Mae'r arolwg yma bellach ar gau.


Mae Cyngor Gwynedd yn cynnal arolwg i lunio darlun clir o’r hinsawdd fusnes bresennol ac i ddeall anghenion busnesau lleol yn well. Rydym yn awyddus i glywed gan fusnesau o bob sector am yr heriau rydych chi’n eu hwynebu, y gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, a’ch cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Bydd eich adborth yn ein helpu i deilwra gwasanaethau sy’n cefnogi’r gymuned fusnes yn fwy effeithiol.

Bydd y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi yn y Flwyddyn Newydd, gan gynnig mewnwelediad gwerthfawr i dueddiadau a heriau lleol. Mae’r arolwg yn cymryd tua 10 munud i’w gwblhau.

Rhoi eich barn

Daeth yr arolwg yma i ben ar 8 Rhagfyr, 2025.