Ymgynghoriad Strategaeth Iaith

Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Bydd y canlyniadau ar gael cyn bo hir.

 

Pwrpas yr ymgynghoriad yma ydi casglu barn y cyhoedd am gynnwys y strategaeth iaith ddrafft.

Bydd crynodeb o’r sylwadau a’r syniadau fydd yn cael eu cyflwyno yn yr holiadur yma yn cael eu cyflwyno i Bwyllgor Iaith y Cyngor yn dilyn y cyfnod ymgynghori, a byddwn yn ystyried wedyn pa newidiadau i’w cynnwys yn y strategaeth derfynol. Bydd y strategaeth derfynol yn cael ei chyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.  

Mae’r strategaeth ddrafft hon wedi ei chreu fel dilyniant i waith y strategaeth bresennol (Cynllun Hybu’r Gymraeg yng Ngwynedd 2018-23) er mwyn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i hybu a hyrwyddo’r iaith ar draws y sir ac i fodloni’r gofynion statudol a osodir o fewn Safonau’r Gymraeg.   Mae’n cyfeirio at rhai o’r prosiectau a gwaith sydd yn cael eu cynnal gan y Cyngor ar hyn o bryd, a rhai o’r materion yr hoffem fynd i’r afael â nhw dros y blynyddoedd nesaf.

Mae’n bwysig nodi bod y Cyngor yn gweithredu cynlluniau mewn nifer o feysydd polisi a statudol cenedlaethol, ac yn gweithredu cynlluniau ar lefel leol sydd yn cael effaith ar y gymuned a’r Gymraeg neu sydd yn ymwneud mewn rhyw ffordd efo ymdrechion i geisio cynnal a hyrwyddo’r Gymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg 
  • Cynllun Gweithredu Tai Gwynedd
  • Cynllun Datblygu Lleol
  • Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy
  • Cynlluniau Adfywio Ardal Ni

Er y bydd cyflawni gwaith y cynlluniau yma yn allweddol i wireddu amcanion cyffredinol y strategaeth, mae prif bwyslais y ddogfen ymgynghori yma ar edrych y tu hwnt i’r polisïau a strategaethau yma, a’r gwaith sydd eisoes ar droed, ac adnabod y cyfleoedd newydd sydd yna i fynd y tu hwnt i ofynion darparu gwasanaethau, ac i hybu defnydd o’r Gymraeg.  

Bydd angen i chi gyfeirio at y ddogfen Strategaeth iaith wrth ymateb i’r holiadur hwn.

 

Cyfnod ymgynghori: 03/04/23 - 21/05/23

 

Mae'r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben. Bydd y canlyniadau ar gael cyn bo hir.