Effaith Covid-19 ar Rentwyr Preifat

Cyfle i denantiaid preifat fynegi barn ar effaith Covid-19 ar denantiaeth. 

Mae 1 mewn 5 aelwyd yng Ngogledd Cymru’n denantiaid preifat. Mae’r coronafeirws a’r cyfnodau clo wedi effeithio ar bob un ohonom. I denantiaid preifat, gallai’r effaith fod wedi arwain at galedi a mwy o risg o ddigartrefedd. 

I helpu cynghorau lleol i gynllunio ar gyfer darparu gwasanaethau wrth symud i 2021, fe wahoddwyd tenantiaid preifat i lenwi holiadur byr a rhannu eu profiadau. Wedi’i greu mewn partneriaeth â TPAS Cymru – y gwasanaeth cyfranogiad tenantiaid – roedd yr holiadur hefyd yn rhoi gwybodaeth am le i fynd am gyngor neu gymorth. Roedd hefyd yn cynnig y cyfle i gofrestru gyda Phwls Tenantiaid – llais tenantiaid yng Nghymru. Mwy o wybodaeth am Bwls Tenantiaid ar gael yma. Mae gan bawb sy’n cofrestru ar gyfer Pwls Tenantiaid y cyfle i ennill gwerth £150 o dalebau siopa.

 

 

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 30 Rhagfyr 2020.

Fe fydd canlyniadau'r ymgynghoriad ar gael yn fuan.