Pwyllgor Cynllunio a'ch hawl i siarad
Nodyn pwysig am drefniadau’r Pwyllgor Cynllunio a’ch hawl i siarad -
Yn sgil Covid-19 mae trefniadau ar y gweill i gynnal Pwyllgor Cynllunio rhithiol am gyfnod dros dro. O ganlyniad, mae’n bosib fod rhywfaint o wybodaeth y tudalennau hyn ac sy’n ymwneud gyda ‘Eich hawl i siarad yn y Pwyllgor Cynllunio’, ‘Cyflwyno cais i siarad mewn Pwyllgor’ yn ogystal â ‘Threfniant y Pwyllgor Cynllunio’ wedi newid i adlewyrchu’r amgylchiadau. Os oes gennych gwestiwn penodol am y trefniadau dros dro newydd, anfonwch e-bost at: cynllunio@gwynedd.llyw.cymru
O safbwynt y drefn sydd mewn lle am gyfnod dros dro rydym yn pwysleisio os ydych yn dymuno siarad yn y Pwyllgor Cynllunio bydd gofyn i chi:
- Gofrestru i siarad erbyn 5pm y dydd Iau cyn y Pwyllgor gan nodi os oes gennych fynediad at offer fideo gynhadledd neu’r gallu i gyflwyno fideo o’ch cyflwyniad. Bydd gofyn gwneud hyn drwy anfon e-bost at: cynllunio@gwynedd.llyw.cymru yn nodi eich enw, e-bost a rhif ffon. Bydd y Gwasanaeth Cynllunio yn eich ffonio i gadarnhau’r trefniadau;
- Gyflwyno fideo i’r Gwasanaeth Cynllunio erbyn 5pm ar y dydd Iau cyn y Pwyllgor;
- Rhag ofn y bydd problemau technegol gofynnir i chi ddarparu copi ysgrifenedig o’ch anerchiad i’r Gwasanaeth Cynllunio erbyn 5pm y dydd Iau cyn y Pwyllgor y bydd y cais yn cael ei glywed ynddo.
- Yn unol â'r drefn siarad arferol, ni ddylai’r fideo o’ch cyflwyniad / eich anerchiad ysgrifenedig fod yn fwy na 3 munud o hyd.
- Rydym yn pwysleisio mai cyfrifoldeb yr unigolyn sydd gan ddiddordeb i siarad fydd i holi a derbyn cadarnhad pan fydd cais penodol yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor.
Y Pwyllgor Cynllunio
I weld gwybodaeth am y Pwyllgor Cynllunio a cheisiadau sy'n mynd gerbron y pwyllgor, ewch i'r adran Pwyllgorau ar y wefan hon: Y Pwyllgor Cynllunio.
Eich hawl i siarad yn y Pwyllgor Cynllunio
Gall unrhyw un fynychu pwyllgor cynllunio er mwyn gwrando ar y trafodaethau, ond ni fydd gennych hawl i ymyrryd yn y drafodaeth nac i leisio barn oni bai eich bod yn cyflwyno cais i siarad ymlaen llaw.
Gall gwrthwynebwyr a chefnogwyr wneud cais i siarad am hyd at 3 munud yn y Pwyllgor Cynllunio. Mae siaradwyr yn cael eu cyfyngu i un o blaid ac un yn erbyn unrhyw gais unigol.
Am ragor o wybodaeth am eich hawl i siarad mewn pwyllgor, edrychwch ar y daflenni Yr hawl i siarad mewn pwyllgor cynllunio & canllawiau gweithredol.
Cyflwyno cais i siarad mewn pwyllgor
Cyn cyflwyno cais i siarad mewn Pwyllgor Cynllunio, darllenwch y daflen Yr hawl i siarad mewn pwyllgor cynllunio.
Mae'n rhaid cyflwyno cais ysgrifenedig i’r Gwasanaeth Cynllunio cyn gynted â phosib – fan bellaf erbyn 5pm ar y dydd Iau cyn y Pwyllgor. Gallwch wneud hyn:
- E-bost: cynllunio@gwynedd.llyw.cymru
- Llythyr: wedi ei gyfeirio at y Gwasanaeth Cynllunio, Swyddfa'r Cyngor, Ffordd y Cob, Pwllheli, Gwynedd. LL53 5AA
Am ragor o wybodaeth am y Pwyllgor Cynllunio edrychwch ar y daflen Trefniant Pwyllgor Cynllunio.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth neu gyngor cysylltwch â ni: