Cyfarwyddyd Erthygl 4
Fel rhan o fesurau i geisio rheoli effaith ail gartrefi a llety gwyliau tymor-byr ar gymunedau, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau i ddeddfwriaeth cynllunio.
Mae’r diwygiadau i ddeddfwriaethau cynllunio yn golygu fod modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol (Cyngor Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri yng Ngwynedd) gyflwyno’r hyn a elwir yn Gyfarwyddyd Erthygl 4 i reoli’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau.
Yn dilyn ymgymryd â’r camau hanfodol, mae’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn galluogi Awdurdod Cynllunio Lleol i fynnu fod perchnogion eiddo yn derbyn hawl cynllunio cyn newid defnydd eu heiddo yn ail gartref neu lety gwyliau tymor-byr.
Mae adroddiad am hyn yn cael ei gyflwyno i Gabinet y Cyngor ar 13 Mehefin 2023.
Cwestiynau cyffredin:
Mae Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn offeryn cynllunio sy’n galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i ymateb i anghenion penodol eu hardaloedd.
Ar gyfer rhai mathau penodol o ddatblygiad nid oes angen derbyn caniatâd cynllunio, sef yr hyn a elwir yn ‘hawliau datblygu a ganiateir’.
Serch hynny, trwy weithredu Cyfarwyddyd Erthygl 4, mae modd i Awdurdod Cynllunio Lleol fynnu caniatâd cynllunio ar gyfer rhai mathau o ddatblygiadau mewn ardal benodol a fyddai fel arall ddim angen derbyn hawl cynllunio ar gyfer y defnydd.
Fel rhan o ymdrechion i geisio cael rheolaeth o’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau mewn cymunedau, mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio Deddfau Cynllunio perthnasol. Mae’r diwygiadau hyn yn galluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol i reoli’r defnydd o dai fel ail gartref neu lety gwyliau tymor byr.
Mae yna ddosbarthiadau defnydd (categorïau) wedi eu cyflwyno sy’n berthnasol i dai preswyl, ail gartrefi a llety gwyliau, fel a ganlyn:
- Dosbarth C3 - Tai annedd, a ddefnyddir fel unig breswylfa neu brif breswylfa (Prif Gartref),
- Dosbarth C5 - Tai annedd a ddefnyddir mewn modd ac eithrio fel unig breswylfa neu brif breswylfa (Ail Gartref)
- Dosbarth C6 - Llety tymor byr (Llety Gwyliau Tymor Byr).
Ar hyn o bryd, mae modd i berchnogion newid rhwng y dosbarthiadau defnydd penodol yma heb yr angen am hawl cynllunio. Fodd bynnag, er mwyn cael rheolaeth o’r defnydd o dai, bellach mae modd i Awdurdodau Cynllunio Lleol ddiwygio’r system gynllunio yn eu hardal trwy gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Os bydd Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn cael ei gyflwyno, bydd modd i Awdurdod Cynllunio Lleol dynnu’r hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer rhai mathau o ddatblygiad. Byddai hyn yn ei wneud yn ofynnol i berchnogion eiddo preswyl dderbyn caniatâd cynllunio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn newid defnydd eu heiddo i ddefnydd penodol.
Mae Cyngor Gwynedd wedi galw am gyflwyno newidiadau i sicrhau gwell rheolaeth o’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau, boed yn ail-gartrefi neu lety gwyliau tymor byr. Ymgyrchwyd ar gyfer y newid hyn fel rhan o ymdrechion i sicrhau fod yna ddarpariaeth fforddiadwy o dai sy’n diwallu anghenion cymunedau lleol.
Fel yr amlygwyd mewn gwaith ymchwil a gyhoeddwyd gan y Cyngor yn 2020 “Rheoli’r defnydd o dai fel cartrefi gwyliau”, yng Ngwynedd mae’r canran uchaf o ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yng Nghymru. Mae ymchwil mwy diweddar gan y Cyngor hefyd yn dangos fod 65.5% o boblogaeth Gwynedd ar gyfartaledd, yn cael eu prisio allan o’r farchnad dai, gyda’r canran yn cynyddu’n sylweddol mewn ardaloedd lle mae niferoedd uwch o gartrefi gwyliau.
Trwy weithredu’r mesurau newydd yn llwyddiannus, gellir cael rheolaeth o’r defnydd o dai fel ail gartrefi a llety gwyliau tymor byr yn Ardal Awdurdod Cynllunio Gwynedd. Ymhellach, mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth cynllunio yn cynnig cyfle i reoli’r defnydd a wneir o dai newydd i’r dyfodol.
Na, mae’n bwysig nodi na fyddai’r penderfyniad i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ôl-weithredol ac ni fyddai disgwyl i berchnogion eiddo gyflwyno cais cynllunio am ddefnydd sydd wedi ei sefydlu yn barod.
Byddai’r cyfarwyddyd yn berthnasol i unrhyw newidiadau defnydd yn dilyn cadarnhau a gweithredu’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ffurfiol gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol (Cyngor Gwynedd).
Yn bresennol, mae’r newidiadau i’r ddeddfwriaeth cynllunio berthnasol yn caniatáu ar gyfer defnydd cymysg, golygai hynny y byddai’r defnydd achlysurol o dŷ preswyl C3 ar gyfer defnydd gwyliau C6 yn gallu digwydd heb orfod derbyn hawl cynllunio.
Pwysleisir y gall yr safbwynt hyn newid yn ddibynnol ar gynnwys y Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Mae trefn bendant y mae disgwyl i Awdurdod Cynllunio Lleol ei ddilyn wrth gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4.
Bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i Gabinet Cyngor Gwynedd yn fuan yn amlinellu’r dystiolaeth i gefnogi cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar gyfer Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd.
Os bydd Cabinet y Cyngor yn cytuno, gosodir rhybudd o’r bwriad i gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 a chynhelir cyfnod o ymgysylltu cyhoeddus lle bydd cyfle i aelodau’r cyhoedd gyflwyno sylwadau.
Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried yn fanwl, cyn y bydd y mater yn cael ei ystyried gan y Cabinet am benderfyniad terfynol. Os bydd Cabinet y Cyngor yn pleidleisio o blaid cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4, bydd trefn newydd yn dod yn weithredol 12-mis wedi dyddiad gosod y rhybudd.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn ystyried cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ardal Gwynedd lle maent yn gweithredu fel Awdurdod Cynllunio Lleol.
Mater i’r Awdurdodau Cynllunio Lleol unigol fydd dod i benderfyniad ffurfiol ar y mater.
Dylid cyfeirio ymholiadau sy’n benodol ymwneud â Pharc Cenedlaethol Eryri iddynt yn uniongyrchol.
Mwy o wybodaeth
Os oes gennych gwestiwn pellach sydd heb ei gyfarch uchod, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynllunio:
Cysylltu â'r Gwasanaeth Cynllunio
(Rhaid creu cyfrif os nad oes ganddoch chi un yn barod)