Gwrychoedd uchel

Rydym yn annog pawb i reoli eu gwrychoedd a’u coed yn yr un ffordd ag y byddech chi'n disgwyl i’ch cymdogion ei wneud. Mae’r enghreifftiau canlynol yn cael eu hystyried yn wrychoedd uchel:  

  • gwrych dros 2 fedr o uchder
  • gwrych sy'n cysgodi golau dydd o eiddo / gardd gyfagos  
  • y rhan fwyaf o’r gwrych o dan sylw yn llinell o ddwy neu fwy o goed neu wrych bytholwyrdd neu rannol fytholwyrdd  


Cwyno am wrych uchel

Cyngor Gwynedd sy'n ymdrin â phob cwyn am wrych uchel yng Ngwynedd, gan gynnwys ardal Parc Cenedlaethol Eryri.

Dim ond pan fo pob ymgais arall i ddatrys y broblem wedi methu y dylid cwyno wrth y Cyngor. Y cam cyntaf yw trafod y sefyllfa gyda’ch cymydog. Dylech gadw cofnod o bob cysylltiad a gohebiaeth rhyngoch chi a’ch cymydog ynglŷn â’r mater.

Os ydych wedi methu â datrys yr anghydfod gyda’ch cymydog gallwch gyflwyno cwyn i’r Cyngor. Lawrlwythwch y ffurflen isod, ei chwblhau a'i dychwelyd i'r cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen ei hun gyda'r ffi, neu ffoniwch 01766 771000.


Ffi

Wrth gyflwyno cwyn am wrych uchel byddwch angen anfon siec am £320 yn daladwy i Cyngor Gwynedd. Ni fydd eich cwyn yn cael ei hystyried nes bod y ffi wedi ei dalu. Nid yw’r ffi hwn yn ad-daladwy.


Camau y bydd y Cyngor yn eu cymryd

Bydd y Cyngor yn penderfynu a yw'n deg credu bod y gwrych yn cael effaith negyddol ar eich mwynhad chi o’ch eiddo neu’ch gardd. Os felly, bydd y Cyngor yn ystyried pa gamau i’w cymryd er mwyn datrys yr anghydfod a rhwystro’r un broblem rhag codi eto.

Os bydd y Cyngor yn penderfynu bod angen gweithredu, bydd rhybudd ffurfiol yn cael ei roi i’r person sy'n gyfrifol am y gwrych. Bydd peidio â chydymffurfio gyda’r rhybudd ffurfiol yn drosedd a bydd y person yn cael ei erlyn gan lys barn.


Apeliadau

Mae gan y sawl sy’n cwyno a pherchennog y gwrych hawl i apelio i'r Arolygiaeth Cynllunio yn erbyn penderfyniad y Cyngor. Bydd rhaid gwneud hyn o fewn 28 diwrnod i’r dyddiad y gwnaeth y Cyngor y penderfyniad. Am ragor o wybodaeth, ewch i:


Rhagor o wybodaeth

neu cysylltwch â ni: