Gall unrhyw un fynd ar ei hôl hi gyda biliau, ond dydi hi BYTH yn rhy hwyr i ofyn am help. Dyma wybodaeth am y grantiau, taliadau a chymorth ariannol sydd ar gael i'ch helpu.
Manylion am daliadau Costau Byw i’w gweld yma: Taliadau Costau Byw 2023 i 2024 - GOV.UK
Bydd miliynau o’r cartrefi incwm isel ledled y Deyrnas Unedig yn cael hyd at £1,350 gan y Llywodraeth yn 2023/24 i helpu gyda chostau byw. Cyhoeddir y dyddiadau yn nes at yr amser ond bydd yn cael ei wasgaru dros gyfnod er mwyn sicrhau bod cymorth cyson ar gael drwy gydol y flwyddyn. Byddant y taliadau yn cael eu talu ar y dyddiadau isod:
Pryd y byddwch yn cael eich talu
Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael:
- £301 wedi’i dalu rhwng 25 Ebrill 2023 a 17 Mai 2023 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl ar fudd-daliadau DWP (£301 wedi’i dalu rhwng 2 a 9 Mai 2023 i’r mwyafrif o bobl ar gredydau treth a ddim ar fudd-daliadau incwm isel eraill).
- £300 wedi’i dalu yn ystod Hydref 2023 i’r rhan fwyaf o bobl.
- £299 wedi’i dalu yn ystod Gwanwyn 2024 i’r rhan fwyaf o bobl.
Taliad Anabledd Costau Byw
Taliad Costau Byw i Bensiynwyr
- Os oes gennych hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer Gaeaf 2023 i 2024, fe gewch chi £150 neu £300 ychwanegol gyda’ch taliad arferol o fis Tachwedd 2023.
Rhagor o fanylion am y Taliad Tanwydd Amgen £200 -
Apply for alternative fuel bill support if you do not get it automatically - GOV.UK (www.gov.uk)
Neu gallwch ffonio: 0808 175 3943
Os ydych chi’n cael trafferth talu eich biliau ynni mae'n bosib y gall eich cyflenwr helpu. Cyngor gan Ofgem.
I weld y cynlluniau cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Prydain ewch i:
helpforhouseholds.campaign.gov.uk. Mae’r cynlluniau yn cynnwys:
- Taliad Tywydd Oer – fydd yn cael ei dalu i chi os yw eich ardal yn profi tywydd eithafol am saith diwrnod yn olynol, byddwch yn gymwys am £25 ychwanegol yr wythnos os ydych chi ar fudd-daliadau.
Mae Cyngor Gwynedd yn gallu eich helpu gyda biliau’r cartref hefo’r taliadau yma:
Mae Cyngor Gwynedd yn gallu eich helpu gyda biliau’r cartref hefyd drwy wneud eich cartref yn gynnes
Dyma help arall sydd ar gael allai fod o help i chi