Cwynion Bwyd

Ambell waith gallwch brynu neu fwyta bwyd a diod sydd ddim yn cwrdd â’ch disgwyliad. Mae gan Gyngor Gwynedd ddyletswydd i ymchwilio i mewn i gwynion bwyd os yw’r bwyd wedi ei brynu o fewn y sir.

Ar achlysuron eraill efallai y byddwch angen cysylltu â’r Tîm Diogelwch Bwyd os ydych yn byw yng Ngwynedd ac eisiau gwneud cwyn am fwyd wedi’i brynu y tu allan i’r sir.

Plîs darllenwch y ddogfen  Gwybodaeth cwynion Bwyd i weld enghreifftiau o gwynion bwyd cyffredin, sydd gan amlaf o ganlyniad i’r broses gynhyrchu a ddim yn risg i Iechyd cyhoeddus.

 

Adrodd pryder: bwyd neu eiddo bwyd

Os ydych yn bryderus am hylendid sefydliad bwyd yng Ngwynedd,  e.e. os ydych wedi sylwi ar ymarferion hylendid bwyd gwael, wedi nodi fod lefel y glanweithdra mewn eiddo yn anfoddhaol neu nad yw eiddo yn arddangos eu Sgôr Hylendid Bwyd. Rhowch wybod i ni:

Adrodd pryder ar-lein: bwyd neu eiddo bwyd

 

Ymholiad

Os oes gennych ymholiad ynglŷn â hylendid sefydliad bwyd yng Ngwynedd, cysyltwch â n:

Adrodd pryder ar-lein: bwyd neu eiddo bwyd

Neu ffoniwch 01766 771000.

Sylwer: Ni fydd Swyddogion Diogelwch Bwyd yn gallu eich helpu os ydych yn dymuno gwneud cais am unrhyw iawndal mewn perthynas â chwyn bwyd na ymchwilio i unrhyw gwyn di-enw.