Cwynion sŵn

Os ydych yn byw yng Ngwynedd ac yn cael eich effeithio gan un o’r problemau sŵn canlynol, cysylltwch â ni:

  • Cymdogion swnllyd  (e.e. cerddoriaeth uchel, larymau, gwaith tŷ/adeiladu (DIY) yn ystod amser afresymol o’r dydd)
  • Sŵn o eiddo masnachol (e.e. adloniant, systemau awyru, larymau)
  • Sŵn o eiddo diwydiannol (e.e. ffactrïoedd, gwaith adeiladu/dymchwel, larymau)
  • Larymau ceir/radio car uchel (dim ond os yw’r cerbyd wedi ei barcio)
  • Cŵn yn cyfarth – cwblhewch y ffurflen adrodd am gŵn yn cyfarth

Dalier sylw: Nid oes gan y Cyngor bwerau i ddelio gyda sŵn domestig bywyd pob dydd fel – fflysio toiledau, sŵn cerdded, drysau’n agor a chau; sŵn plant yn crio; neu sŵn pobl ar y stryd.

 

Sut mae gwneud cwyn?

 

Ydi’n bosib gwneud cwyn yn ddienw?
Nac ydyw. Ni allwn ystyried cymryd camau gorfodi oni bai eich bod yn darparu eich enw.

 

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi wneud cwyn?

Fel arfer byddwn yn anfon taflen atoch er mwyn i chi allu cadw cofnod manwl o’r sŵn, gan gynnwys y dyddiad a’r amser y mae’n digwydd.  Bydd hyn yn ein helpu i ymchwilio i’r gwyn a phenderfynu ar y camau nesaf i’w cymryd.

Byddwn hefyd yn cysylltu â’r sawl yr ydych yn cwyno amdanynt i roi gwybod fod cwyn wedi ei gwneud yn eu herbyn.

Os bydd y broblem yn parhau, bydd Archwilydd yn asesu ymhellach, ac os bydd angen, rhybudd statudol yn cael ei roi er mwyn stopio, neu leihau’r sŵn. Os bydd y rhybudd hwn yn cael ei anwybyddu, gallwn erlyn drwy’r llysoedd.