Grant i elusennau - Cronfa'r Degwm
Pwrpas Cronfa’r Degwm yw hyrwyddo a chefnogi gweithgareddau gan sefydliadau elusennol sydd o fudd i drigolion Gwynedd, ac yn cyfoethogi cymunedau Gwynedd.
Pwy all geisio am y grant?
Gall elusennau cofrestredig geisio am y grant hwn o Gronfa Degwm Cyngor Gwynedd, gan gynnwys:
- eisteddfodau lleol
- gweithgareddau celfyddydol
- mudiadau addysg
- mudiadau hamdden a chwaraeon
- mudiadau cadwriaethol
- elusennau sy’n cefnogi pobl wael neu bob anabl
Gweld meini prawf ac amodau llawn (Canllawiau)
Faint o arian sydd ar gael?
Mae’n bosib gwneud cais am unrhyw swm o arian, ond fel arfer bydd grantiau unigol yn tueddu i fod rhwng £100 a £3,000.
Sut mae gwneud cais am arian?
Er mwyn gwneud cais bydd angen i chi gwblhau'r ffurflen gais / ffurflen gais a’i ddanfon yn ddelfrydol yn electroneg i Cistgwynedd@gwynedd.llyw.cymru neu gall ei ddychwelyd drwy’r post i’r cyfeiriad sydd wedi ei nodi ar y ffurflen.
Rydym yn awgrymu'n gryf eich bod yn trafod eich cais gyda Swyddog Cefnogi Cymunedau'r ardal berthnasol cyn ei gyflwyno.
Dalgylch Bro Peris, Bro Lleu/Nantlle, Bro Ffestiniog
E-bost: markgahan@gwynedd.llyw.cymru
Rhif ffon: 07901 893006
Dalgylch Caernarfon/Bangor a Bro Ogwen
E-bost: dafyddeinionjones@gwynedd.llyw.cymru
Rhif ffon: 01248 605276
Dalgylch Pwllheli a Penllŷn
E-bost: alyslloydjones@gwynedd.llyw.cymru
Rhif ffon: 01758 704120
Bro Dysynni, Ardudwy a Dolgellau
E-bost: annalewis@gwynedd.llyw.cymru
Rhif ffon: 01341 424504
Porthmadog a Penrhyndeudraeth
E-bost: lindseyellis@gwynedd.llyw.cymru
Rhif ffon: 07919024025
Bala Penllyn, Rhydymain a Dinas Mawddwy
E-bost: HuwAnturEdwards@gwynedd.llyw.cymru
Rhif ffon: 07929512741
Rhagor o wybodaeth
Gallwch hefyd gysylltu drwy anfon e-bost i CistGwynedd@gwynedd.llyw.cymru neu drwy ffonio 01286 679870.